Gwesty Parc y Strade ‘ddim am gael ei ddefnyddio i letya ceiswyr lloches’ ar ôl cau

S4C

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn dweud eu bod nhw wedi derbyn sicrwydd na fydd Gwesty Parc y Strade yn cael ei ddefnyddio i i letya ceiswyr lloches wedi iddo gau ei ddrysau unwaith eto.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwesty Parc y Strade wrth Newyddion S4C ddoe eu bod nhw’n “gorfod cau ein drysau a rhoi’r gorau i fasnachu yn syth”.

Roedd defnydd y gwesty yn destun dadlau sylweddol yn 2023 oherwydd cynlluniau i osod cannoedd o geiswyr lloches yno. 

Fe ddaeth cynlluniau'r Swyddfa Gartref i roi lloches i 241 o bobl yng Ngwesty Parc y Strade i ben yn dilyn misoedd o brotestiadau a gwrthwynebiad gan gyngor Sir Caerfyrddin.

Fe gafodd nifer o bobl eu harestio yn sgil y protestiadau, gyda'r gwaith plismona yn costio mwy na £1m i Heddlu Dyfed-Powys.

Daeth cadarnhad ym mis Mai 2024 y byddai'r gwesty yn ail-agor dan berchnogaeth newydd.

Ond daeth i’r amlwg yr wythnos hon y byddai yn cau ei drysau unwaith eto.

Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin ddydd Mercher eu bod nhw wedi cael sicrwydd gan y Fonesig Nia Griffith AS, yn dilyn ei thrafodaethau gyda'r Swyddfa Gartref, nad yw'r adeilad yn cael ei ystyried ar gyfer unrhyw gynlluniau i letya ceiswyr lloches dros dro.

Mae'r Awdurdod Lleol wedi cysylltu â staff y gwesty i ddarparu cymorth cyflogadwyedd, medden nhw. Doedd ganddyn nhw ddim cynlluniau i brynu’r adeilad, meddai llefarydd.

‘Mesurau ar waith’

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin ei fod yn “hynod siomedig” clywed bod perchnogion Gwesty Parc y Strade wedi penderfynu cau'r gwesty.

“Ein blaenoriaeth fel Cyngor Sir yw staff y gwesty, y mae'r datblygiad hwn yn effeithio'n uniongyrchol arnyn nhw, ac mae ein swyddogion mewn cysylltiad uniongyrchol â'r staff i'w cefnogi yn ystod cyfnod y mae'n rhaid ei fod yn un anodd a phryderus iawn iddyn nhw,” meddai.

Ychwanegodd y Cynghorwyr Martyn Palfreman ac Edward Skinner, sy'n cynrychioli Ward Hengoed: 

“Rydyn ni'n ddiolchgar dros ben i'r Cyngor Sir am roi mesurau ar waith i helpu'r staff y mae'r cyhoeddiad sydyn hwn yn effeithio arnyn nhw, a byddwn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi'r ymdrechion hyn dros yr wythnosau nesaf. 

“Calonogol hefyd yw'r sicrwydd gan Lywodraeth y DU na fydd yn defnyddio Gwesty Parc y Strade i letya ceiswyr lloches. 

“Dylai hyn roi tawelwch meddwl i'r gymuned gyfan, ond rydyn ni'n annog unrhyw un sydd â phryderon parhaus i gysylltu â ni'n uniongyrchol".   

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â pherchnogion y gwesty i holi am ei ddyfodol ond heb gael ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.