Gweithredoedd Trump yn dylanwadu ar ganlyniad etholiad y Senedd, meddai gweinidog
Mae gweithredoedd Donald Trump yn dylanwadu ar ganlyniad etholiad y Senedd, yn ôl un o weinidogion Llywodraeth Cymru.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates, bod parodrwydd Prif Weinidog y DU, Keir Starmer, i herio Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi gwneud lles i gefnogaeth y Blaid Lafur cyn yr etholiad ar 7 Mai.
Ychwanegodd bod y ffaith bod Nigel Farage yn “ffanboi” i Donald Trump hefyd wedi gwneud difrod i ymgyrch Reform.
Ymatebodd Reform drwy ddweud bod Llafur Cymru yn ceisio defnyddio Trump i dynnu sylw oddi ar eu record mewn llywodraeth yng Nghymru.
“Mae pobl yn codi bygythiad Donald Trump a sut mae Keir Starmer yn sefyll i fyny iddo ar y stepen drws,” meddai Ken Skates ar raglen Politics Wales.
“Dydw i erioed o’r blaen, mewn unrhyw etholiad yng Nghymru, yn cofio enw Arlywydd yr Unol Daleithiau yn cael ei godi mor rheolaidd.
“Mae pobl yn cydnabod bod y Prif Weinidog yn iawn i sefyll yn ei erbyn, yn iawn i beidio â mynd i mewn i'r rhyfel yn Iran, ac mae pobl yn cydnabod bod sefydlogrwydd a diogelwch o'r pwys mwyaf.”
Ychwanegodd: “Mae pobl ar y stepen drws hefyd yn trafod ei agosatrwydd at Nigel Farage.
“Mae Farage yn un o’r ffanbois mwyaf yn y byd i Donald Trump.”
Wrth ymateb, dywedodd James Evans, sy’n ymgeisydd Reform yn sedd Brycheiniog Tawe Nedd, bod Llafur yn ceisio beio Donald Trump ar adeg pan oedd y Prif Weinidog dan y lach oherwydd sgandal Peter Mandelson.
“Dydw i ddim yn gwybod pwy mae Ken wedi bod yn siarad â nhw,” meddai.
“Yr hyn mae pobl yn ei ddweud wrtha i ar y stepen drws yw, ar ôl 27 mlynedd o Lafur Cymru, gyda chymorth a chefnogaeth Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar adegau, bod nhw wedi cael llond bol ar y rhestrau aros hiraf yn y Deyrnas Unedig, a bod plant yn gadael yr ysgol yn anllythrennog i bob pwrpas, ac ar ymosodiadau ar ffermwyr.”
