Image
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymdrin â thân mawr ar Fynydd Conwy fore Sul.
Mae’r tân ger Ffordd Bwlch Sychnant, ac mae’r gwasanaeth wedi cynghori pobl sy’n byw’n lleol i gau pob ffenestr a drws.
Dywedodd Traffig Cymru fod llawer iawn o fwg yn symud ar draws rhannau o arfordir Gogledd Cymru.
Mae pobl sy’n teithio yn yr ardal yn cael eu cynghori i gymryd gofal ychwanegol.
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.