Y Grand National: 'Blwyddyn bwysig' i'r jocis Cymreig
Gyda ras y Grand National yn cael ei chynnal yn Aintree ddydd Sadwrn, mae un o hyfforddwyr ceffylau rasio amlycaf Cymru yn dweud ei bod hi'n flwyddyn bwysig i'r jocis Cymreig.
Bydd 34 o geffylau yn cystadlu yn y ras enwog ddydd Sadwrn, gan ddechrau am 16:00.
Bydd yn rhaid i'r ceffylau a'u jocis wynebu 30 ffens a hynny dros bedair milltir a chwarter.
Mae Peter Bowen o Sir Benfro yn un o hyfforddwyr ceffylau rasio amlycaf y gamp.
Fe wnaeth Peter ymddeol yn swyddogol ychydig o flynyddoedd yn ôl a hynny ar ôl hyfforddi mwy na 1,000 o enillwyr.
Ei fab Mickey sydd bellach yn berchen ar y drwydded hyfforddi, ac mae ei feibion eraill Sean a James yn jocis adnabyddus.
Wrth siarad cyn y ras, dywedodd Peter: "Ma’ hi’n ras bwysig, ma’ hi werth £1,000,000 ‘leni, y ras fwya pwysig i’r trainers a’r jockeys.
"Ma’r jockeys Cymraeg eleni wedi dod ‘mlaen hell of a lot ’leni am y season ‘ma, ma’ Sean yn leadio’r champion jockeys gyda 100, a ma’ James biti fod wedi reidio 100 o winners, ma’ Ben Jones biti fod wedi reidio 100 o winners.
"Wedyn ma’ Jack Tudor yn mynd yn dda a Lorcan Williams so mae’n flwyddyn bwysig i’r jockeys Cymraeg, ‘se’n neis i geffyl o Gymru i ennill y ras."
Fe fydd dau o feibion Peter, Sean a James, yn cystadlu yn y ras ddydd Sadwrn.
"Ma’r ddau fab yn reidio, ma’ good reid ‘da’r ddou ohonyn nhw ond dwi’n credu bod ceffyl Sion ‘biti 4th favourite, Haiti Couleurs," meddai.
"Wedyn ma’ James yn reidio i Willie Mullins, ma’ chance ‘da fe. Bydd tamed bach o nerves bownd o fod, so ar y foment dim nerves eniwe."
Fe wnaeth y trefnwyr gyflwyno cyfres o fesurau diogelwch newydd yn 2024 ar gyfer y ras.
Yn ogystal â gostwng nifer y ceffylau a fydd yn rhan o'r ras, mae yna rediad byrrach i'r glwyd gyntaf er mwyn arafu cyflymder y ceffylau a gostyngiad yn uchder un o'r clwydi.
Cafodd amser y ras ei symud ymlaen awr a 15 munud i leihau'r tensiwn o'i chwmpas a darparu tir mwy diogel i redwyr rhag ofn y bydd amodau sych.
Yn 2024, ni wnaeth unrhyw geffyl ddisgyn ac fe wnaeth 21 ceffyl gwblhau'r ras - sef y nifer uchaf ers 1992.
Y llynedd, fe wnaeth 16 gwblhau'r ras, gyda 13 ddim yn gorffen oherwydd pryder am eu lles, tri yn disgyn, un yn cael ei dynnu i lawr ac un yn gwthio'i joci oddi ar ei sedd.