Gostyngiad o 30% mewn ardrethi busnes yn y sector lletygarwch a hamdden

Stryd Fawr Treorci

Bydd miloedd o fusnesau yn y sector lletygarwch a hamdden yng Nghymru yn gweld gostyngiad o 30% yn eu biliau ardrethi busnes o fis Ebrill 2027, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Bydd tafarndai, bwytai, caffis, bariau, gwestai, campfeydd a sinemâu ymhlith y busnesau fydd yn gymwys am y cymorth.

Fe fydd y gostyngiad parhaol yn berthnasol i eiddo bach a chanolig sydd â gwerth ardrethol o dan £51,000.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y cynllun yn fwy hael na'r rhyddhad dros dro o 15% sydd ar gael ar hyn o bryd i fusnesau lletygarwch bwyd a diod.

Bydd siopau manwerthu hefyd yn parhau i elwa o'r cymorth.

Fe fydd y cymorth yn cael ei ariannu drwy gynnydd bach yn y lluosydd uwch sy'n berthnasol i'r eiddo sydd â'r gwerth uchaf yng Nghymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru na fydd hynny'n lleihau cyfanswm cyfraniad ardrethi busnes at ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

'Calon ein cymunedau'

Dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, fod y newid yn rhan o ymdrechion y llywodraeth i gefnogi canol trefi.

"Ein strydoedd mawr yw calon ein cymunedau ledled Cymru, ac mae'r busnesau sy'n eu llenwi yn haeddu ein cefnogaeth," meddai.

"Mae'r gostyngiad hwn o 30% yn y ardrethi ar gyfer tafarndai, caffis, campfeydd, gwestai a chymaint o ffefrynnau lleol eraill yn ymwneud â rhoi'r hyder i'r busnesau hynny fuddsoddi, tyfu a pharhau i wasanaethu'r cymunedau sy'n dibynnu arnyn nhw.

"Rydyn ni'n gwneud i'r system weithio'n well i'r sectorau sy'n rhoi bywyd i ganol ein trefi."

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones, y byddai'r newid "sylweddol a pharhaol" yn gwneud gwahaniaeth i fusnesau cymwys.

"Rydyn ni wedi cymryd dull cytbwys, gan sicrhau bod y cymorth hwn yn fforddiadwy wrth ddiogelu'r cyfraniad hanfodol y mae ardrethi busnes yn ei wneud i'n gwasanaethau cyhoeddus," meddai.

Mae'r newid yn rhan o ymrwymiad maniffesto Llywodraeth Plaid Cymru i ailgydbwyso'r system ardrethi busnes a cheisio rhoi bywyd newydd i ganol trefi.

Bydd rheoliadau ar gyfer y newid yn cael eu cyflwyno yn yr hydref ac, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd y gostyngiad yn dod i rym ar 1 Ebrill 2027.

Bydd union werthoedd y lluosyddion ardrethi ar gyfer 2027-28 yn cael eu cadarnhau wrth baratoi'r gyllideb, yn dilyn Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU, meddai Llywodraeth Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.