Gemau'r Gymanwlad: Finucane yn creu hanes gydag aur arall yn Glasgow

Emma Finucane (Reuters)

Mae’r seiclwraig o Gaerfyrddin Emma Finucane wedi creu hanes ar ddiwrnod ola' Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow wrth hawlio ei phedwaredd fedal aur o'r gemau.

Roedd Finucane eisoes wedi sicrhau tair medal aur yn y gemau eleni - y Gymraes gyntaf erioed i gyflawni'r gamp.

Ac fe ychwanegodd un arall yn Felodrom Syr Chris Hoy yn ras y keirin brynhawn dydd Sul.

Mae Finucane, sy'n 23 oed, felly'n llwyddo i osod record am nifer y medalau i Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad.

Hi yw hefyd yw'r seiclwr cyntaf i ennill pedair medal aur yn y Gemau.

Cyn y ras roedd gan y bencampwraig Olympaidd bum medal - yn cynnwys y ddwy fedal efydd o'r gemau yn Birmingham yn 2022, a'r tair enillwyd eleni.

Fe ddaeth Lowri Thomas yn y chweched safle.

Dywedodd Emma ar ôl y ras: “Gyda dwy lap i fynd, roedd  angen i mi fynd ar y blaen. 

"Gyda hanner lap i fynd, teimlais fod gen i'r coesau a bo fi’n mynd amdani.”

Fe wnaeth Olivia Breen osod record newydd ddeuddydd yn ôl gyda chyfanswm o bum medal (tair aur, un arian ac un efydd) ar ei phedwerydd ymddangosiad dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad.

Fe fethodd Anna Morris ag ychwanegu at ei chyfanswm o ddwy fedal aur ac un arian gan orffen yn y chweched safle yn y ras ddileu (elimination race). 

Fe orffennodd Jess Roberts a Carys Lloyd allan ohoni hefyd yn y ras honno brynhawn ddydd Sul.

Doedd dim lwc chwaith i Ollie Barratt a Josh Whitehouse wnaeth fethu yn eu hymgais am fedalau yn y jiwdo.

Ar ddiwedd y cystadlu ddydd Sadwrn, roedd gan Gymru gyfanswm o 30 medal (8 aur, 10 arian a 12 efydd), dwy yn well na Birmingham bedair blynedd yn ôl , er bod yna llai o gystadlaethau yn Glasgow.

Llun: Tîm Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.