Galw am wahardd gostyngiadau ffug mewn siopau erbyn Dydd Gwener Du 2027
Mae angen gwahardd gostyngiadau ffug mewn siopau erbyn Dydd Gwener Du y flwyddyn nesaf, yn ôl ASau.
Mae Pwyllgor Busnes, Arloesi, Gwyddoniaeth a Masnach Tŷ’r Cyffredin yn galw am reolau newydd a chosbau llymach i fusnesau sy’n twyllo pobl.
Dywedodd y pwyllgor mewn adroddiad bod angen gwahardd tactegau gwerthu ffug a chamarweiniol ar-lein cyn Dydd Gwener Du y flwyddyn nesaf.
Mae hynny'n cynnwys prisiau camarweiniol, gostyngiadau ffug a phrisiau manwerthu argymelledig wedi'u dyfeisio.
Dywedodd yr adroddiad: "Mae defnyddwyr Prydain yn colli biliynau o bunnoedd oherwydd nad yw prisiau camarweiniol, sgamiau ar-lein a chynnyrch anniogel yn cael eu hatal na’u cosbi’n ddigonol. Mae’r risgiau hyn yn cynyddu wrth i Ddydd Gwener Du agosáu."
Mae’r pwyllgor hefyd am weld cynllun diogelu defnyddwyr ar draws y llywodraeth o fewn chwe mis, gydag un gweinidog yn gyfrifol amdano.
Yn ôl y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol, roedd pobl wedi colli £10.6 biliwn oherwydd prisiau camarweiniol yn y flwyddyn hyd at fis Mai 2024.
Dywedodd ASau fod prisiau manwerthu argymelledig yn cael eu camddefnyddio, a bod cwsmeriaid yn cael eu denu gan gostau ychwanegol sy’n cael eu hychwanegu wrth dalu ar-lein.
Tynnodd y pwyllgor sylw hefyd at werthiannau cyfnod byr a rhybuddion bod stoc yn brin.
Yn ôl ymchwil gan y grŵp defnyddwyr Which?, dim ond tua un o bob pump o ostyngiadau Dydd Gwener Du oedd yn rhatach yn ystod cyfnod gwerthu 2025 nag ar unrhyw adeg arall o'r flwyddyn.
'Annerbyniol'
Dywedodd yr adroddiad: "Mae’n annerbyniol bod cymaint o fusnesau’n defnyddio arferion prisio ffug a chamarweiniol sy’n achosi colledion o biliynau o bunnoedd i ddefnyddwyr y DU bob blwyddyn.
"Rhaid gwella’r ddeddfwriaeth er mwyn ei gwneud yn haws canfod a chosbi manwerthwyr sy’n ymddwyn yn amhriodol."
Ymhlith argymhellion y pwyllgor roedd: “Rhaid i’r Llywodraeth ychwanegu pob math o brisio ffug a chamarweiniol, yn enwedig yr arfer o ddangos pris cyn ac ar ôl gostyngiad, at y rhestr o arferion gwaharddedig o dan Ddeddf Marchnadoedd Digidol, Cystadleuaeth a Defnyddwyr 2024.
"Dylai ddarparu canllawiau clir ynghylch yr hyn sy’n gyfystyr ag ymddygiad camarweiniol, er mwyn helpu asiantaethau gorfodi i ganfod a chosbi busnesau sy’n torri’r rheolau.
"Dylai’r rheolau ddod i rym mewn pryd ar gyfer Dydd Gwener Du 2027."
Dywedodd y pwyllgor fod sgamiau ar-lein hefyd yn gwaethygu'r broblem.
Derbyniodd Report Fraud fwy na 14,000 o adroddiadau am dwyll siopa ar-lein yn ystod cyfnod y Nadolig yn 2025, gyda phobl yn colli £18.3 miliwn yn ystod y tri mis hyd at fis Ionawr 2026.
Dywedodd Sue Davies, pennaeth polisi diogelu defnyddwyr Which?: "Byddai rheolau cliriach ynghylch prisio camarweiniol yn lleihau’r rhwystrau cyfreithiol sy’n wynebu rheoleiddwyr ac yn helpu i greu chwarae teg i fusnesau sy’n gosod eu prisiau’n onest."