Galw am oedi cynlluniau i gau ysgolion bach yn Sir Gâr
Mae llywodraethwr a rhiant yn Ysgol Pontiets wedi galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i gyflwyno moratoriwm ar gau ysgolion bach a gwledig, nes bod y cyngor yn cynnal "golwg strategol" ar eu dyfodol ac yn cydweithio â Llywodraeth Cymru.
Fe fydd Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg y cyngor yn cyfarfod ddydd Mawrth i drafod dyfodol pedair ysgol gynradd, sef Carwe, Bancffosfelen, Blaenau a Phontiets.
Bydd aelodau'r pwyllgor yn ystyried argymhellion swyddogion cyn i Gabinet y cyngor benderfynu ar 2 Tachwedd a ddylid cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar ddyfodol yr ysgolion.
Pe bai'r Cabinet yn cytuno, fe allai'r ymgynghoriad gael ei gynnal rhwng 10 Tachwedd a 22 Rhagfyr.
Yn ôl papurau'r cyfarfod, yr opsiwn sy'n cael ei ffafrio gan swyddogion yw cau'r pedair ysgol a symud y disgyblion i ysgolion eraill ar ddiwedd Rhagfyr 2027.
Fe fydd y cyngor llawn yn gwneud penderfyniad terfynol ddydd Mercher ar gau dwy ysgol arall, ar wahân i'r pedair hyn, sef Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn. Dan y cynigion, byddai'r ddwy ysgol yn cau ar ddiwedd Rhagfyr eleni.
Mae Dr Huw Williams, sy'n llywodraethwr ac yn rhiant yn Ysgol Pontiets, yn teimlo bod ardal Cwm Gwendraeth yn cael ei "thargedu" gan y cyngor, ac mae'n credu bod yna "gwestiynau am strategaeth y sir" a "chynaliadwyedd tymor hir ein cymunedau."
"Beth ni'n gofyn amdano yw golwg strategol ar hyn oll.
"Y ffordd mae'n teimlo ar hyn o bryd yw bod nhw yn mynd wrthi jyst yn meddwl mae eisiau cael yr ysgolion yma wedi eu cau mor fuan â phosib. Ble ewn ni? Wel mae honno yn darged meddal draw fan'na yng Nghwm Gwendraeth, ewn ni amdani," meddai.
"Beth ni'n gofyn yw bod y cyngor yn pwyllo, mynd ati i gynllunio yn strategol a chydweithio gyda llywodraeth ganolog.
"Mae'r llywodraeth wedi ymrwymo mewn egwyddor i egwyddorion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Wel, beth sydd yn digwydd yn y cyd-destun yna?
"Mae'n edrych i fel petasai'r ddau fraich o lywodraeth ddim yn siarad gyda'i gilydd. Baswn i yn hoffi galw ar foratoriwm ar gau ysgolion bach a gwledig tra bod llywodraeth ganolog yn mynd i wireddu'r egwyddorion sydd ynghlwm gyda'r Comisiwn.
"Mae angen edrych ar y tymor hir a beth sydd yn mynd i gynnal cymunedau fel y rhai hynny."
'Mwy i addysg na ffigurau'
Mae'r alwad am oedi wedi cael ei chefnogi gan y cyn-bennaeth ysgol, Julian Jones, sydd bellach yn llywodraethwr yn Ysgol Bancffosfelen.
"Ni'n rhuthro mewn i hyn oherwydd ffigurau. Ac mae fwy i addysg na ffigurau. Ymateb i ni," meddai.
"Da ni ddim yn gweithio gyda neb i gael ffordd ymlaen. Dyna i gyd mae llywodraethwyr yn medru gwneud yw ymateb i'r hyn sydd yn dod o'r cabinet a'r cyrff addysg yn y sir.
"Mae amddiffyn beth sydd gyda ni yn hollbwysig. Os nad ydym ni yn pwyllo yna mae'r canlyniad yn mynd i fod yn echrydus o ran cymunedau Cymru. "
Yn ôl adroddiad i'r pwyllgor craffu, roedd dros 3,500 o lefydd gwag yn ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin ym mis Ionawr 2026, gyda dros 1,000 yn llai o ddisgyblion cynradd o gymharu â 2021.
Mae disgwyl i ddiffyg ariannol cyfunol ysgolion y sir gyrraedd £16.4m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol os na fydd y sefyllfa'n newid.
Mae nifer o'r ysgolion bach yn wynebu diffygion ariannol, tra bod adeilad Ysgol Carwe eisoes wedi cau oherwydd pryderon diogelwch, gyda'r disgyblion yn mynychu Ysgol Gwynfryn.
Blaenoriaethau'r cyngor
Mae Gareth Beer, Aelod o'r Senedd dros Sir Gaerfyrddin ar ran Reform UK, hefyd yn feirniadol o'r cynigion, gan gwestiynu blaenoriaethau gwariant y cyngor.
"Mae'n ofnadwy i'r cymunedau lleol. Mae'r rhain yn ganolfannau i'r cymunedau, nid ysgolion yn unig.
"Ni'n darganfod arian ar gyfer pethau fel Pentre Awel, ac adnewyddu Debenhams. Mae angen darganfod arian i gynnal y llefydd yma ar agor."
Pan gafodd ei herio ynglŷn â'r gostyngiad yn nifer y disgyblion, awgrymodd Mr Beer y gallai'r sefyllfa newid yn y dyfodol.
"Mae ystadau tai yn cael eu codi mewn cymunedau lleol. Mae Ysgol Mynyddygarreg yn llawn. Dyna allai fod y dyfodol i'r ysgolion hyn ac fe fyddwn ni yn crafu ein pennau beth ni'n mynd i wneud."
'Chwarae efo thân'
Plaid Cymru a'r grŵp annibynnol sy'n arwain Cyngor Sir Caerfyrddin ar hyn o bryd. Mae gan Blaid Cymru 38 o'r 75 sedd ar y cyngor, gydag un sedd yn wag.
Mae'r blaid hefyd yn arwain Llywodraeth Cymru ers mis Mai eleni.
Gydag etholiadau lleol i'w cynnal ym mis Mai 2027, mae Dr Huw Williams yn credu y gallai'r cynlluniau i gau ysgolion bach arwain at golli cefnogaeth i Blaid Cymru yn lleol.
"Mae yna gwestiwn fan hyn ynglŷn â ble maen nhw yn meddwl mae'r targedau meddal. Lle falle mae'r lleiaf o wrthwynebiad i Blaid Cymru ac efallai bod nhw yn meddwl mae Cwm Gwendraeth yn gadarnle i'r blaid, gallwn ni wneud beth ni moyn i'r cymunedau 'na achos gewn ni ddim gwrthwynebiad.
"Wel chwarae efo thân maen nhw yn gwneud. Bydd cymunedau eraill yn gweld beth sydd yn digwydd ac yn gofyn y cwestiwn - 'Da ni wedi pleidleisio Plaid dros ein cymunedau a dros ein hiaith a dyma maen nhw yn gwneud pan maen nhw mewn grym, nid dim ond yn y cyngor sir ond mewn grym lawr ym Mae Caerdydd.'
"Mae'n naturiol bod pobl yn gofyn cwestiynau."
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mewn ymateb i'r pryderon, dywedodd Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni wedi ymrwymo i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac i gefnogi’r Gymraeg fel iaith gymunedol sy’n ffynnu.
“Mater i awdurdodau lleol yw cynllunio lleoedd mewn ysgolion. Rhaid ystyried yn ofalus unrhyw gynigion sy’n effeithio ar ysgolion gwledig, gan roi sylw llawn i’w heffaith addysgol, ieithyddol a chymunedol.”
Mae Newyddion S4C wedi gwneud sawl cais am gyfweliad gydag arweinydd y cyngor, Linda Evans, neu'r aelod Cabinet dros addysg, Glynog Davies, drwy swyddfa wasg y cyngor.
Mae cais am ymateb hefyd wedi'i anfon at Aelodau Plaid Cymru o'r Senedd dros Sir Gaerfyrddin, sef Nerys Evans, Cefin Campbell ac Adam Price.