Galw ar Lywodraeth y DU i beidio â chodi trethi ar danwydd

Galw ar Lywodraeth y DU i beidio â chodi trethi ar danwydd

Mae prif weithredwr un o gwmnïau mwyaf Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i beidio â chodi trethi ar danwydd yn sgil y rhyfel yn Iran.

Dywedodd yr Arglwydd Richard Walker, cadeirydd gweithredol Iceland sydd a’i bencadlys yng Nglannau Dyfrdwy, na ddylid cynyddu'r doll ar danwydd ym mis Medi.

Fe gafodd Richard Walker ei benodi yn ymgynghorydd i’r Prif Weinidog, Keir Starmer ar gostau byw ym mis Chwefror.

Yn ôl cymdeithas foduro'r RAC fe wnaeth prisiau petrol a deisel godi mwy ym mis Mawrth nag unrhyw fis arall erioed, ar ôl cau Culfor Hormuz ar arfordir Iran.

Culfor Hormuz yw un o brif lwybrau masnach strategol y byd ac mae'n hanfodol i ddosbarthu olew, gyda thua 20% o olew a nwy naturiol hylifedig (LNG) yn pasio drwy'r culfor fel arfer.

'Trafod'

Mae’r doll tanwydd wedi ei rhewi tan fis Medi, gyda’r cynnydd sydd wedi ei drefnu ar gyfer y mis hwnnw yn cael ei adolygu oherwydd y prisiau uchel.

Dywedodd yr Arglwydd Walker wrth raglen Today BBC Radio 4 ddydd Gwener: “Mae hwnnw’n mynd i ddod i ben ym mis Medi.

“Dw i’n meddwl, o ystyried lle’r ydyn ni ar hyn o bryd, bod angen i ni fod yn meddwl ac yn trafod ymestyn hynny neu ei ehangu.

“Yn ddiddorol, roeddwn i’n darllen bod llywodraeth Awstralia wedi torri 14c y litr oddi ar ei threth tanwydd yn ddiweddar. Hynny yw, 5c yw’r toriad hwn.”

Fe gafodd y toriad o 5c y litr yn y doll tanwydd ei gyflwyno gan y llywodraeth Geidwadol ym mis Mawrth 2022, yn sgil y rhyfel yn Wcráin.

Cyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves yn ei chyllideb ym mis Tachwedd 2025 mai dim ond tan ddiwedd mis Awst y byddai’r toriad yn cael ei ymestyn. 

Wedi hynny, byddai’r cyfraddau’n dychwelyd yn raddol i lefelau Mawrth 2022 dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd yr Arglwydd Wolfson, prif weithredwr Next, wrth y Press Association yr wythnos ddiwethaf y byddai’r cynnydd mewn prisiau tanwydd yn golygu bod Llywodraeth y DU yn cael rhagor o drethi beth bynnag ac y byddai peidio cynyddu'r doll ar danwydd yn "cadw'r ddysgl yn wastad".

Dywedodd yr Arglwydd Walker, sy’n cynrychioli Llafur yn Nhŷ’r Arglwyddi: “Mae’r Arglwydd Wolfson yn foi gwych ac yn ddeallus iawn, ac efallai fod ganddo bwynt fan hyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.