Galw am gynnwys bro'r Eisteddfod mewn unrhyw gynllun economaidd sy'n olynu Arfor
Mae un o gynghorwyr bro’r Eisteddfod wedi galw am gynnwys yr ardal mewn unrhyw gynllun economaidd newydd i Gymru wledig sydd yn olynu Arfor.
Fe wnaeth y Llywodraeth Cymru ddiwethaf glustnodi miliynau o bunnoedd ar gyfer siroedd gwledig i hybu twf busnesau a datblygiad economaidd mewn ardaloedd lle mae dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn.
Ond doedd Gogledd Sir Benfro ddim yn rhan o’r cynllun.
Dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi cyhoeddi ei chynlluniau newydd eto, ond mae’n dweud bod yna fwriad i ddatblygu “strategaeth ddatblygu wledig wedi ei theilwra” a bod “cryfhau’r economi wledig yn flaenoriaeth”.
Yn ôl y Cynghorydd Huw Murphy, “does dim digon o waith i’r iaith” yn yr ardal ac mae’n hollbwysig bod yr ardal yn rhan o gynllun newydd i hybu’r economi wledig.
Roedd Arfor yn fenter ar y cyd gan gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn i ddefnyddio mentergarwch a datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg dan nawdd Llywodraeth Cymru. Daeth y cynllun i ben yn 2025, ond doedd Sir Benfro ddim yn rhan ohono.
Mae Fflur James, 21 oed, yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd a chafodd ei magu yn Llantwd. Mae hi’n awyddus i ddilyn gyrfa yn y cyfryngau neu ym myd gwleidyddiaeth, ond mae’n dweud nad oes cyfleoedd iddi ddychwelyd i’w milltir sgwâr.
"Mae'r cyfleoedd yn brin iawn," meddai. "Mae'n fy nhristau i.
"Mae'n freuddwyd gen i ddychwelyd i'r ardal a phrynu tŷ ond breuddwyd yw nid realiti oherwydd mae'n amhosib, yn 21 oed, i ddechrau dychmygu darganfod tŷ yn ardal heb son am ffindio swydd sydd yn talu cyflog anrhydeddus i chi.
"Os chi eisau dychwelyd i'r gorllewin, mae rhaid i chi fod yn ymwybodol falle na gewch chi'r swydd chi'n haeddu ond chi cael y swydd honno os chi'n aros yng Nghaerdydd neu yn Llundain. Mae rhan fwyaf o fy ffrindiau wedi gadael yr ardal."
'Pobl ifanc yn ymadael'
O dan gynllun peilot Arfor 1, fe roddwyd £2m i brosiectau yn y pedair sir gyda’r nod o gadw pobl ifanc yn y broydd hyn a denu pobl yn ôl i’r ardaloedd. Rhoddwyd £11m ychwanegol i’r siroedd o dan gynllun Arfor 2, a ddaeth i ben yn Hydref 2025.
Dangosodd asesiad annibynnol fod Arfor 2 wedi creu rhwng 250 a 300 o swyddi newydd. Roedd y cynllun yn rhan o gytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Fel sawl ardal wledig arall, mae bro’r Eisteddfod yn wynebu heriau demograffig sylweddol. Rhwng 2014 a 2024, roedd 18.9% yn llai o blant yn ysgolion cynradd ardal y Preselau a 26% yn llai o ddisgyblion yn Ysgol Bro Preseli yng Nghrymych.
Mae’r boblogaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda hefyd yn heneiddio. Mae 27% o’r boblogaeth dros 65 oed, ond mae disgwyl i’r ganran gynyddu i 32% erbyn 2040, ac i 34% yn Sir Benfro.
Mae Cyngor Sir Penfro wedi penderfynu’n ddiweddar gau Ysgol Clydau ym mhentref Tegryn eleni oherwydd gostyngiad yn nifer y disgyblion.
Yn ôl Huw Murphy, sy’n cynrychioli ardal Trefdraeth a Dinas, mae’r heriau sy’n wynebu bro’r Eisteddfod yn amlwg.
“Mae’r boblogaeth yn heneiddio," meddai. "Mae pobl ifanc yn ymadael ac mae llai o blant yn yr ysgolion.
"Fy nheimlad i yw s’dim digon o waith i’r iaith. Mae pobl ifanc yn gorfod gadael i gael gyrfa rhywle arall, ac mae’n ddiddorol i weld dinas Caerdydd yn dweud faint o Gymraeg sydd yn cael ei siarad yn y ddinas.
“Bydden ni yn tybied mai pobl o Sir Geredigion, Gogledd Sir Benfro a Gwynedd sydd wedi symud i Gaerdydd ac sydd wedi codi cyfanswm y bobl sydd yn siarad Cymraeg. Mae swyddi yma, ond dim gwaith da.”
Mae’n dweud bod rhaid cynnwys Gogledd Sir Benfro mewn unrhyw gynllun newydd i hybu’r economi mewn broydd Cymraeg.
“Mae’n bwysig dros ben bod ardaloedd fel Gogledd Sir Benfro yn y prosiect," meddai.
"Sai’n teimlo bod ni yn cael y chwarae teg mae ardaloedd eraill wedi cael. Mae mwy o pan-Wales approach gyda’r llywodraeth yma na’r Blaid Lafur. Mae’r llywodraeth yma yn fwy cefnogol.
“Dw i yn obeithiol y bydd rhywfaint o arian i ardaloedd fel Gogledd Sir Benfro. Mae’n bwysig iawn bod ‘Arfor 3’ yn cynnwys Gogledd Sir Benfro.”
Mae Fflur James yn ategu’r alwad honno.
"Mae yna ddiffyg gweledigaeth a buddsoddiad wedi bod, ynghyd a diffyg diddordeb yn yr ardal hon," meddai.
"Mae'n rhaid i ni gael cefnogaeth, a hynny ar frys, oherwydd ni ar groesffordd beryglus iawn oherwydd os oes mwy o'n pobl ifanc, a dw i yn cynnwys fy hunan yn hynny, yn gadael, wel mae'r holl ymdrechion yn mynd i fynd yn ofer.”
Dyw’r llywodraeth newydd, dan arweiniad Plaid Cymru, ddim wedi cyhoeddi cynllun eto i olynu Arfor. Dywedodd y llywodraeth fod “cryfhau’r economi wledig yn flaenoriaeth” a’i bod yn datblygu “strategaeth datblygu gwledig wedi’i theilwra” i adeiladu ar gynllun Arfor, er mwyn “taclo tlodi a chreu cyfleoedd economaidd a chymdeithasol o fewn cymunedau gwledig”.
Mae Cyngor Ceredigion wedi cael benthyciad o £1.85m gan Lywodraeth Cymru i brynu fferm ar gyrion Llanbedr Pont Steffan. Bydd canolfan hyfforddi galwedigaethol amaethyddol yn agor ar fferm Lletytwppa ym mis Medi.
Dywedodd arweinydd Cyngor Ceredigion, Bryan Davies, fod ceisio cadw pobl ifanc yn yr ardal yn rheswm pendant dros fentro. Mi fydd cyrsiau sylfaenol City & Guilds mewn amaethyddiaeth ar lefelau 2 a 3 yn cael eu cynnig yno ym mis Medi.
“’Dyn ni’n gweld y ‘brain drain’, fel mae’r Saeson yn ei alw fe, tuag at y dinasoedd mawr. Roedd bwlch o ran y ddarpariaeth sgiliau roedden ni’n ei chynnig yn y sir.
“Os ti’n gallu cadw pobl ifanc yn yr ardal, neu denu nhw o ardaloedd eraill, a chynnig y cyrsiau ’ma iddyn nhw, gobeithio y byddan nhw’n rhan o’r economi ac yn cyfrannu at economi’r ardal.
"I fi, y diwydiant pwysicaf sydd gyda ni yng Ngheredigion yw amaeth, ynghyd â thwristiaeth. Mae yna gyfle euraidd fan hyn i ehangu sgiliau pobl ifanc.”
Dywedodd Bryan Davies nad oedd am “dorri adenydd” unrhyw berson ifanc a oedd am adael y sir i fynd i “Gaerdydd neu Abertawe” i weithio, ond ei fod yn “gobeithio cael nhw nôl i’r ardal” wrth iddyn nhw ddechrau bwrw gwreiddiau.
Dywedodd fod cynlluniau Arfor 1 a 2 hefyd wedi bod yn “hwb enfawr” i bobl a oedd am ddechrau busnesau yng Ngheredigion, ac ychwanegodd ei fod yn “gobeithio’n fawr y bydd yna Arfor 3”.
Ar faes y Steddfod dros y Sul, fe gynhaliwyd trafodaeth dan y teitl “Pwy sydd yn poeni am gefn gwlad Cymru?” dan nawdd Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol Cymru Wledig, sef LPIP Cymru Wledig, sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae’r sefydliad yn gwneud gwaith ymchwil ar Gymru wledig er mwyn gwella’r broses o lunio polisi.
Rhian Curtis yw Rheolwr Polisi ac Ymgysylltu LPIP Cymru Wledig, ac mae hi’n dweud bod angen llunio atebion sy’n addas i’r amrywiaeth o gymunedau yng nghefn gwlad.
"Does yna ddim un peth sydd yn effeithio pob cymuned a dyna rhywbeth arall sydd wedi dod mas o'r ymchwil yw mae pob cymuned yn wahanol," meddai.
"Mae rhai heriau sydd yn gyson i bawb fel diffyg tai fforddiadwy neu sut i gadw pobl ifanc yn y cymunedau neu eu denu nhw nol."
"Mae'n bwysig fod polisi sydd yn cael ei wneud yn seiliedig ar dystiolaeth ac ar ddata. Dyna lle mae Arfor ac ein gwaith ymchwil ni mor ddefnyddiol. Mae rhai o'r heriau sydd yn gwynebu cefn gwlad Cymru ddim yr un peth ag sydd yn effeithio ar ein dinasoedd ni."
Roedd Jessie Buchanan, Cyfarwyddwr Gyda’n Gilydd Dros Newid, yn un o’r panelwyr yn y sesiwn. Mae hi’n dweud ei bod yn hanfodol cael pecyn o gefnogaeth i olynu cynllun Arfor.
"Mae'n andros o bwysig i gymunedau dros Gymru bod yna becyn o arian i helpu achos mae gan y cymunedau yr atebion ond weithiau mae yna her sut mae'r gefnogaeth yn dod iddyn nhw," meddai.
"Mae gen i obaith bod y llywodraeth newydd bod ganddyn nhw deimlo well o'r lleol a'r gwledig dros Gymru. Dyw Cymru ddim yn unffurf. Dyw'r gwledig ddim yn un lle."