Ffrindiau'n cyfrannu bron i £2,000 i'r Eisteddfod ar ôl ennill rhaglen Y Deis
Mae dwy ffrind wedi penderfynu rhoi eu gwobr ariannol o raglen Y Deis i gefnogi'r Eisteddfod Genedlaethol.
Enillodd Helen Thomas o Aberporth a Lowri Moffatt o Hwlffordd bron i £2,000 ar raglen Y Deis ar S4C nos Fercher.
Fe gafodd y ddwy, sydd yn gydweithwyr yng Ngholeg Sir Benfro, sgwrs cyn y rhaglen a phenderfynu y byddan nhw'n cyfrannu'r arian maen nhw'n ennill i Eisteddfod y Garreg Las eleni.
"O'n ni’n dwy ar y pryd yng nghanol pwyllgorau yn trial meddwl am syniadau a trial cael pethe at ei gilydd i godi arian," meddai Lowri wrth Newyddion S4C.
“A daeth hwnna’n rhan o’r sgwrs gynta’ rili.”
Ychwanegodd Helen: “O’dd e jyst yn lwc bod ni ‘di cael y jacpot a o’dd y syniad o roi’r arian at y Steddfod yna o’r dechre'.
“Felly ma’ hanner yr arian yn mynd at bwyllgor Aberporth a hanner yn mynd at bwyllgor Hwlffordd.”
Yn y rhaglen mae tri thîm o ddau yn wynebu ei gilydd dros sawl rownd, gan ennill arian i ychwanegu i'w pot trwy ateb cwestiynau yn gywir.
Mae'r tîm sydd â'r swm uchaf yn ennill y cyfle i gyrraedd y rownd derfynol, sy’n ras yn erbyn y cloc i gipio'r jacpot.
Enillodd Helen a Lowri £1,940 wedi iddyn nhw ateb yr holl gwestiynau oedd angen gyda 10 eiliad yn unig ar ôl ar y cloc.
Dywedodd y ddwy eu bod yn gystadleuol iawn, a'u bod wedi mynychu dau gwis er mwyn paratoi ar gyfer cystadlu ar Y Deis.
“Fi’n meddwl gan fod e’n gwis newydd ac yn y Gymraeg, man y man cefnogi fe. Ac o’n ni ddim yn meddwl bydden ni’n mynd trwyddo," meddai Helen.
“A ni’n eitha’ cystadleuol o ddwy o ni ac yn hoff o quizzes, athon ni i ddau gwis i ymarfer cyn y gystadleuaeth.”
Ychwanegodd Lowri: “Fi di bod yn gosod cwis bron bob wythnos am ryw dwy tair blynedd yn coleg.
“Felly fi jyst yn teimlo o’n i ishe cael tro ‘y’n hunan."
Ar ôl ennill y brif wobr ar y rhaglen mae Helen a Lowri yn annog eraill i ymgeisio ar gyfer Y Deis pe bai ail gyfres yn cael ei darlledu.
Mae fformat y rhaglen eisoes wedi cael ei werthu i sianel TG4 yn Iwerddon.
“Mae’n bwysig a hanfodol gweld rhaglenni cwis yn y Gymraeg, mae angen ystod llawn o raglenni ar S4C er mwyn cadw sylw pawb," meddai Lowri.
"Bysen i'n argymell i unrhyw un mynd amdani, o'dd e'n brofiad anhygoel a wnaethon nhw wir edrych ar ôl ni.
"Felly yn sicr ewch amdani."
