Enillydd Y Llais yn falch o fod yr artist drag cyntaf i ddod i'r brig yn y gystadleuaeth

Enillydd Y Llais yn falch o fod yr artist drag cyntaf i ddod i'r brig yn y gystadleuaeth

Fe gyhoeddwyd nos Sul mai'r perfformiwr Carrie Sauce oedd yr artist drag cyntaf i ennill rownd derfynol o'r gyfres ryngwladol, Y Llais.

Roedd Carrie Sauce yn perfformio'r gân fuddugol o gystadleuaeth Cân i Gymru yn 2026, Cyn i’r Llenni Gau gan Gruffydd Wyn.

Wrth siarad mewn cyfweliad â Newyddion S4C yn dilyn y rownd derfynol, dywedodd yr artist “mai fi yw'r unig Drag Queen i ennill cyfres o'r Llais, ac mae hynny'n anhygoel".

Fe wnaeth partner Carrie Sauce, Eli, waith ymchwil, ac mae'n credu nad oes perfformiwr drag wedi ennill y wobr yn unrhyw un o’r 74 cyfres arall o The Voice: 

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n hen bryd i ni newid hynny – os oes rhywun yn mynd i’w wneud, hi fydd hi.”

Ychwanegodd Carrie Sauce: “Roeddwn i'n poeni pan ddechreuais i gael clyweliad y byddai pobl yn meddwl, ‘O, wyddoch chi, dim ond Drag Queen ydy hi. Mae hi yma am ychydig o adloniant — bydd hi'n eithaf camp, bydd hi'n dweud ychydig o jôcs — ac yna byddwn ni'n cael gwared arni pan nad yw hi'n ddoniol mwyach, ac wedyn bydd y bobl gyda'r lleisiau gwell yn dechrau dangos eu hunain'.

"Ond wnaeth hynny ddim digwydd.

“Mae Y Llais wedi fy meithrin i, ac rwy'n gobeithio y bydd mwy o bobl hoyw yn meddwl: ‘Galla i wneud hyn. Rydw i'n mynd i gael fy nathlu am y person rhyfeddol, anhygoel ydw i.’"

Dywedodd pa mor bwysig oedd hi iddi allu cynrychioli pobl o'r gymuned LGBTQ+, a rhoi gobaith iddyn nhw fynd amdani.

“Rydw i bob amser yn hoffi ceisio cael fy mhwynt gwerthu unigryw, a dyna fy mrand i. Nawr fi yw'r unig Drag Queen i ennill The Voice erioed.”

Image
Carrie Sauce a Syr Bryn Terfel ar lwyfan Y Llais

Dysgu'r iaith Gymraeg

"Dwi wastad yn dweud pa mor brydferth yw'r iaith Cymraeg," meddai Carrie i Newyddion S4C, "ond mae yn iaith anodd i ddysgu."

Fe wnaeth Carrie berfformio deuawd gyda Syr Bryn Terfel yn y rownd derfynol, o'r gân enwog Amser Dweud Ffarwel (Con te partirò) gan Sarah Brightman ac Andrea Bocelli.

"I ganu yn Gymraeg ac Eidaleg hefyd... Mi oedd canu yn Gymraeg ddim yn digon o her yn barod - ie, just tafla curveball at Carrie, bydde hi yn iawn 'da fe," meddai.

Yn ystod y rhaglen fe wnaeth Carrie a Bryn feddwl am enw drag iddo yntau hefyd, sef 'Dame Barbie Q Sauce'.

'Breuddwyd wedi dod yn wir' 

I Carrie, mae'r holl broses wedi bod yn llawn hwyl a sawl cyfle newydd wedi codi, yn enwedig y cyfle i weithio gyda Syr Bryn. 

Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Maen nhw i gyd yn hyfforddwyr arbennig - ond wnes i ddweud hyn ar y rhaglen, wrth wylio fe (Bryn) yn Opera Cenedlaethol Lloegr yn gwneud Sweeney Todd, roedd yn anochel i fod yn honest, yn enwedig oherwydd bod ein lleisiau... dwi'n meddwl bod y rownd derfynol wedi profi bod ein lleisiau'n uno mor dda gyda'i gilydd.

"Oedd yna gymaint mi oedd o yn gallu dysgu i mi, ond yn bennaf, fe wnaeth o ddweud wrtha'i i fwynhau fy hun."

Image
Carrie Sauce, yr hyfforddwyr a'r gystadleuwyr arall ar lwyfan Y Llais yn canmol Carrie

Roedd yr holl brofiad ar Y Llais yn "anhygoel" meddai.

"Dw i'n eithaf caled ar fy hunain, ac fe wnaeth o (Bryn) ddweud wrtha'i i fwynhau fy hun," meddai.

"Dim ond unwaith 'da chi'n byw, ac yn sicr, dim ond unwaith 'da chi ar Y Llais - felly mwynhewch bob eiliad. A dwi'n gobeithio fy mod i wedi. 

"Dwi methu aros i weld beth sydd i ddod nesaf."

Beth nesaf?

Mae ennillydd Y Llais eleni yn derbyn y cyfle i recordio cân wreiddiol gan un o gyfansoddwyr mwya’r byd, Amy Wadge, sydd wedi cydweithio gydag artistiaid fel Pink, Sam Ryder, ac Ed Sheeran.

Wrth siarad am y gân wreiddiol, dywedodd Carrie wrth Newyddion S4C: "Dwi methu aros i weld beth sydd i ddod ar ôl hyn, i weithio gydag Amy Wadge - mae'n freuddwyd wedi dod yn wir.

"Mae'n mynd i fod yn ffantastig, ac mae gallu creu'r gân yma o ddim byd yn y Gymraeg yn mynd i fod yn brydferth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.