Emyr Lewis yn ennill Cadair Eisteddfod y Garreg Las 2026

Emyr Lewis a Mererid Hopwood

Emyr Lewis sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod y Garreg Las 2026, a hynny am awdl "wefreiddiol a thyner".

Y dasg eleni oedd cyfansoddi awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol ar y testun Llinell neu Linellau.

Y beirniaid oedd Idris Reynolds, Mererid Hopwood a Carwyn Eckley.

Cyn seremoni'r Cadeirio, fe gafodd yr Archdderwydd newydd, Tudur Dylan, ei gyflwyno i gynulleidfa'r Pafiliwn gan yr Archdderwydd presennol, Mererid Hopwood.

16 o gynigion

Wrth draddodi’r feirniadaeth ar ran ei gyd-feirniaid, dywedodd Idris Reynolds: “Derbyniwyd 16 o gynigion, y nifer fwyaf ers Eisteddfod Casnewydd yn 1988. Yr oedd Llinell neu Llinellau yn destun da ac yn gyfle i’r beirdd i fynd lle mynnent.

“Daeth dwy awdl i’r brig yn y gystadleuaeth eleni, ac meddai’r beirniaid “Heb amheuaeth cafwyd awdl orchestol gan Pwll y Wrach. Mae’n rhychwantu wyth canrif o’n traddodiad barddol ac fe’i lleolwyd yn y parthau hyn. O ben y Mwnt, ger aber afon Teifi, gwêl y bardd linellau’r trai yn y tywod.

"Mae’r cynganeddu’n wefreiddiol a gall y bardd hwn adeiadu cwpled, englyn neu bennill o gywydd o gylch un gair."

Image
IR
Idris Reynolds yn traddodi'r feirniadaeth

'Reiat o awdl'

Ychwanegodd Idris Reynolds: “Mae hon yn awdl a fydd yn canu yn y parthau hyn a thros Gymru gyfan. Ond ei hanffawd oedd iddi ddod wyneb yng ngwyneb ag awdl a oedd yn llachar yn ei gwreiddioldeb.

“Eiddo A yw’r awdl honno. Dyma reiat o awdl sy’n dod â newydd-deb carlamus i gystadleuaeth y Gadair. Mae’n tywys yr awdl eisteddfodol i fannau na fu yno o’r blaen wrth blymio i ddyfnderoedd abswrd yr isymwybod. "

Image
cadair
Daw’r coedyn ar gyfer y Gadair eleni o dir Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Aeth Idris Reynolds ymlaen i ddweud mai "siwrne drên sydd yma drwy hunllefau’r nos dan gromlin y lleuad anwadal, anwastad. 

"Ond trên rhyfedd yw hwn. Nid oes teithiwr arall arno, na chwaith na thaniwr na gyrrwr na giard.

“A dweud y gwir, aros yn ei unfan a wna; y nos sy’n symud o’i gwmpas. Siwrne echrydus yw hon gan fod haid o adar ar y lein – ‘rhyw ddwywaith, tri pymtheg plws wythdeg-saith’ ohonynt. Mae sticeri arnynt gyda’u henwau arswydus megis Mastrwni, Mwgi Mekk, Fathadawra a Derekk – gyda dwy ‘k’ gyda llaw. 

"Crynhoir y cwbl gyda’r llinell ardderchog ‘Adar nad adar ydynt’. Mae’r adar yn ei ddrysu’n llwyr wrth chwarae ar ei ansicrwydd. I ddianc mae’n disgyn o’r trên, ond gwaethygu wna pethau wrth iddo ddod, yng ngeiriau’r bardd, at ‘dŷ maen mawr erchyllwych, marmor chwellawr’. Mae’r perchennog y ei adnabod ac mae’r gwatwar a’r pwyntio bys yn waeth byth.

“Ond mae dihangfa’n dod drwy gyffyrddiad ysgafn ei gymar a’i ‘Bore da’ tyner. Mae’r siwrne drosodd, mae’r hunllef drosodd a’r lleuad wedi diflannu. Ac mae’r diweddglo yn gyfoethog o amwys ‘Mae trannoeth. Mae trueni,’

“Diolch i A am awdl wefreiddiol a thyner. Braint o’r mwyaf yw cytuno â’m cyd-feirniaid mai eiddo A yw’r gadair eleni a hynny mewn cystadleuaeth nas gwelwyd ei thynnach, am wn i, ers Eisteddfod Aberteifi yn 1976. Cadeirier A.”

Image
TD
Yr Archdderwydd nesaf Tudur Dylan yn cael ei gyflwyno i'r dorf yn y Pafiliwn gan yr Archdderwydd presennol Mererid Hopwood

O Lundain i Gymru

Ganed Emyr Lewis yn Llundain. Pan oedd yn chwech oed, symudodd y teulu i Gaerdydd. Aeth i Ysgol Gymraeg Llundain, Ysgol Gynradd Bryn-taf ac Ysgol Gyfun Rhydfelen, lle taniwyd ei ddiddordeb mewn cynganeddu gan ei athrawes Gymraeg, Nia Daniel (Royles bellach). 

Datblygodd ei grefft dan arweiniad yr englynwr T Arfon Williams.

Mae ganddo radd mewn Saesneg o Brifysgol Caer-grawnt a gradd yn y Gyfraith o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Mae’n byw yng Nghraig-cefn-parc ers 36 mlynedd. 

Mae wedi cyhoeddi tair cyfrol o gerddi: Chwarae Mig, Amser Amherffaith/Dysgu Deud Celwydd yn Tsiec a twt lol

Bu’n aelod cyson o dim Ymryson y Beirdd Morgannwg. Ef yw beirniad Englyn y Dydd yn yr Ymryson er pedair blynedd.

Bu’n gweithio fel cyfreithiwr hyd 2019 pan benodwyd ef yn Bennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle mae bellach yn Athro Emeritws. 

Cyn hynny bu’n gweithio hefyd yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd ac yn aelod o Bwyllgor Arbenigwyr Cyngor Ewrop sy’n craffu ar sut mae gwledydd yn trin ieithoedd lleiafrifol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.