Eluned Morgan wedi colli ei sedd yn y Senedd
Mae'r Farwnes Eluned Morgan wedi colli ei sedd yn Senedd Cymru ar ôl iddi fethu yn ei hymgyrch i gaei ei hethol i un o'r chwe sedd oedd ar gael yn etholaeth Ceredigion Penfro.
Hi oedd chweched prif weinidog Cymru o rengoedd y Blaid Lafur, ac fe gafodd ei thynged ei benderfynu yn Ysgol Bro Teifi yn Llandysul wrth i'r pleidleisiau gael eu cyfrif ddydd Gwener.
Yn dilyn y canlyniad, dywedodd ei bod yn camu i lawr fel arweinydd Llafur Cymru, gan ychwanegu ei bod yn cymryd cyfrifoldeb am ganlyniad Llafur yng Nghymru:
“Mae’n amlwg bod canlyniadau ar draws y Deyrnas Unedig gyfan wedi dangos rhwystredigaeth ddofn gyda’r Blaid Lafur", meddai.
“Mae angen i ni fynd yn ôl i fod yn blaid y dosbarth gweithiol. Mae angen i Lywodraeth Lafur newid cwrs yn genedlaethol. Mae angen i gyfoeth y genedl hon gael ei ddosbarthu’n fwy cyfartal i ffwrdd o’r De-ddwyrain.
“Ond roeddwn i bob amser yn glir bod yr etholiad hwn yn ymwneud â Chymru ac nad oedd Keir Starmer ar y papur pleidleisio. Rwy’n cymryd cyfrifoldeb, ac rwy’n ymddiswyddo.”
Wrth roi teyrnged i'r Farwnes Morgan yn dilyn y canlyniad, dywedodd Syr Keir Starmer ei bod wedi bod yn brif weinidog "aruthrol".
“Torrodd rwystrau ac nid yw erioed wedi rhoi’r gorau i ymladd dros deuluoedd yn y cymunedau y mae’n eu caru.
“Gyda’n gilydd, rydym wedi gweithio i godi plant allan o dlodi, torri rhestrau aros ysbytai, a chreu miloedd o swyddi newydd.
“Hoffwn ddiolch i Eluned Morgan am y dros 30 mlynedd o wasanaeth y mae eisoes wedi’i roi i’n gwlad a’n plaid.
“Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd ei chyfraniad i Gymru yn parhau.”
Canlyniadau trychinebus
Fe ddioddefodd Llafur ei phlaid ganlyniadau trychinebus wrth i'r etholwyr droi eu cefn ar ganrif o'i goruchafiaeth yng Nghymru, gan ddewis bwrw pleidlais dros Reform UK a Phlaid Cymru yn bennaf.
Cafodd maint y golled ei thanlinellu gan ganlyniadau echrydus i Lafur yn etholiadau lleol Lloegr hefyd.
Bydd y ffaith na yw prif weinidog diwethaf Llafur yn y Senedd wedi gallu sicrhau sedd yno yn golled symbolaidd i'r blaid wrth iddi wynebu cyfnod yn y diffeithwch gwleidyddol.
Cyn y canlyniad roedd darogan o fewn y blaid na fyddai'r canlyniadau'n rhai da i Lafur.
Wrth i'r gorsafoedd pleidleisio gau nos Iau, dywedodd Huw Irranca-Davies, cadeirydd ymgyrch Llafur Cymru a dirprwy’r Arglwyddes Morgan: “Ar ôl blynyddoedd lawer mewn llywodraeth yng Nghymru, a chyda Llafur bellach yn llywodraethu ledled y DU, byddai yna bob amser awyrgylch cryf dros newid a rhwystredigaeth.
“Mae’r pwysau parhaus y mae pobl yn eu hwynebu oherwydd costau byw yn real ac yn cael eu teimlo’n ddwfn. Rydym yn cymryd hynny o ddifrif. Fe wnaethom glywed llawer o negeseuon anodd ar garreg y drws.
“Ac yn y dyddiau nesaf, byddwn yn myfyrio’n ofalus ac yn gwrando ar yr hyn y mae pleidleiswyr yn ei ddweud wrthym...
"Ni fydd unrhyw osgoi. Dim gwyriad. Dim ond penderfyniad i gywiro pethau.”
Ychwanegodd fod yr Arglwyddes Morgan wedi dangos “arweinyddiaeth benderfynol” mewn “cyfnod anodd iawn” i’r blaid.
Mae ffynhonnell ar ran Llafur Cymru yn dweud eu bod yn disgwyl i Eluned Morgan siarad yn Llandysul yn ddiweddarach yn dilyn ei chanlyniad.
Ychwanegodd y blaid nad oes ganddyn nhw y canlyniad terfynol ond "ein bod ni wastad wedi gwybod y byddai'n frwydr anodd ar gyfer Ceredigion Penfro.
"Fe fydd Eluned yn cymryd cyfrifoldeb am y canlyniad yma."