Elfyn Evans yn y trydydd safle yn Rali Paraguay
Mae’r Cymro Elfyn Evans yn y trydydd safle yn Rali Paraguay ar ddiwedd yr ail ddiwrnod o gystadlu.
Mae Evans yn 56.1 eiliad y tu ôl i Sami Pajari o’r Ffindir sy'n arwain y rali ar hyn o bryd.
Ond mae gan Evans her i ennill lle ar y podiwm, gan fod Adrien Fourmaux o Ffrainc yn dynn ar ei sodlau.
Dim ond 3.3 eiliad o fantais sydd gan Evans, gyda phum cymal o’r rali yn weddill ddydd Sul.
Mae Evans ar frig Pencampwriaeth y Byd, gyda thair rali’n weddill ar ôl Paraguay.
Mae ganddo fantais o 30 pwynt dros Pajari.
Dywedodd Evans: “Mae Adrien wedi cael diwrnod da, ond nid oedd colli cymaint o amser ar y 'super special' heno yn rhan o'r cynllun.
“Mae disgwyl amodau anodd fory, ac mae llawer i frwydro drosto, a byddwn yn gwneud ein gorau glas.”
Llun: X/Elfyn Evans
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/2093833655906967740