Elfyn Evans yn gorffen Rali’r Ffindir yn y trydydd safle

Elfyn Evans (Toyota Gazoo Racing)

Mae’r Cymro Elfyn Evans wedi gorffen Rali’r Ffindir yn y trydydd safle ar ddiwedd diwrnod ola’r cystadlu ddydd Sul.

Roedd Evans yn yr ail safle tu ôl i Sébastien Ogier o Ffrainc ar ddiwedd ail ddiwrnod y rali nos Wener.

Ond ar yr ail gymal ddydd Sadwrn fe wnaeth y car droi drosodd sawl gwaith a bu’n rhaid i Evans gael cymorth y cefnogwyr i gael ei gar nôl ar y ffordd.

Fe gollodd dipyn o amser gan gwympo i’r bumed safle.

Ond fe lwyddodd i ddringo i’r trydydd safle erbyn diwedd cymalau ddydd Sadwrn ac ef oedd y cyflymaf ar gymal ola’r dydd.

Bu'n rhaid i Ogier adael y rali ar ôl i'w gar adael y ffordd ar gymal 17, gyda Sami Pajari o'r Ffindir yn arwain ar ôl hynny gan ennill y rali yn y pen draw.

Mae’r safle ar y podiwm yn golygu fod Evans yn ymestyn ei flaenoriaeth ym Mhencampwriaeth y Byd i 30 pwynt dros Pajari gyda phedair rali yn weddill o'r tymor.

Llun: X/Elfyn Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.