Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn: Sut i gyrraedd y maes
Eleni, mae Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal ar Faes Sioe Môn ger Gwalchmai.
P’un a ydych chi’n cystadlu, yn cefnogi neu am fynd yno i grwydro’r maes, gallwch deithio i’r ŵyl ar fws, trên neu mewn car.
Dyma sut i gyrraedd maes yr Eisteddfod.
Teithio mewn car
Wrth ddefnyddio unrhyw ap neu declyn fel Sat Nav, Mapiau Google, Waze neu What3words, defnyddiwch LL65 4RW fel y cod post.
Cyfarwyddiadau teithio o’r de
Teithiwch ar yr A55 a dewch oddi ar y ffordd yng nghyffordd 6 ger Llangefni. Fe fydd arwyddion melyn yn eich arwain tuag at faes yr Eisteddfod.
Mae’r daith fel arfer yn cymryd 12 munud o gyffordd 6 i’r maes, ond mae disgwyl traffig yn ystod yr ŵyl, felly cofiwch adael digon o amser i gyrraedd.
Cyfarwyddiadau teithio o’r gogledd
Teithiwch ar yr A55 a dewch oddi ar y ffordd yng nghyffordd 5 ger Bryngwran. Fe fydd arwyddion melyn yn eich arwain tuag at faes yr Eisteddfod.
Mae’r daith fel arfer yn cymryd chwe munud o gyffordd 5 i’r maes, ond mae disgwyl traffig yn ystod yr ŵyl, felly cofiwch adael digon o amser i gyrraedd.
Mae pob maes parcio yn yr Eisteddfod am ddim ac o fewn pellter cerdded byr i’r maes.
Fe fydd parcio ar gael i ddeiliaid bathodynnau glas hefyd. Bydd arwyddion ar gyfer sut i gyrraedd y maes parcio penodol hwn.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Y bws cyhoeddus sy’n teithio heibio’r maes yw’r 4A o Fangor i Gaergybi, gyda maes yr Eisteddfod gyferbyn â safle bws Stad Ddiwydiannol Mona.
Yr orsaf drenau agosaf i’r maes yw Llanfairpwll, sydd tua naw milltir o’r maes, neu orsaf Tŷ Croes, sy’n orsaf fach sy’n stopio ar gais, tua phum milltir o’r maes.
Beic
Os ydych chi am ddod i’r Eisteddfod ar eich beic, mae lle i gadw beiciau’n ddiogel wrth ymyl y fynedfa.
Nid yw’r Urdd yn argymell cerdded i’r maes gan nad oes palmant yn arwain at faes yr Eisteddfod.