Eisteddfod yr Urdd: Elin Undeg Williams yn ennill y Goron
Elin Undeg Williams o Fetws Gwerful Goch, Sir Ddinbych yw Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.
Cafodd Elin, sy’n 19 oed, ei choroni ar ddiwrnod olaf yr Eisteddfod ddydd Gwener.
Hi yw’r cyntaf i ennill y Fedal Ddrama a’r Goron ers Llŷr Titus, a oedd yn un o’r beirniaid eleni.
Elin oedd Brif Ddramodydd Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a’r Fro 2025.
Y beirniaid eleni oedd Llŷr Titus a Sonia Edwards.
Roedd gofyn i’r ymgeiswyr gyfansoddi darn neu ddarnau o ryddiaith greadigol dros 2,500 o eiriau ar y thema “Lloches”.
Wrth ymateb i’r gwaith buddugol, dywedodd y beirniaid: “Myfyrdodau neuadd bentref sydd yma a’r neuadd honno yn edrych ar ddigwyddiadau’r gymuned o’i chwmpas a’r hyn sydd yn mynd ymlaen ynddi.
“Dyma enghraifft glyfar o ‘waliau’n siarad’. Mae yma ddychan, beirniadu, anwylo, craffu gwirioneddol a darlun byw, a gwreiddiol o gymuned amaethyddol.”
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Lowri Bebb o Gaernarfon, a Ffion Eleri Thomas o Fangor oedd yn drydydd.
Dywedodd y beirniaid fod pob un o’r 14 ymgais a ddaeth i law “hefo rhywbeth gwerth ei ganmol ynddynt”.
Mae Elin yn gyn-ddisgybl Ysgol Betws Gwerful Goch ac Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun.
Mae hi yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio’r Gyfraith a Chymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae Elin hefyd yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Uwchaled ac Aelwyd Pantycelyn.
Dywedodd yr Urdd fod Elin yn diolch i’w theulu ac i'w chyn-athrawon am eu cefnogaeth, ac yn benodol i Dr Eurig Salisbury o Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth am ei anogaeth.
Cafodd y Goron eleni ei dylunio gan y gemydd Myfanwy Jones, sy’n dod yn wreiddiol o Lanfairpwll.
Cafodd ei gwneud o bres, ac mae arni ddwy garreg opal a darnau bach o garreg jâd.
Mae defnydd melfed gwyrdd ar y tu mewn, gyda’r cyfan yn adleisio lliwiau traethau’r ynys.
Dywedodd Myfanwy nad oedd hi “erioed wedi dylunio coron o’r blaen”.
Ychwanegodd ei bod wedi holi pobl ar Instagram am beth oedd yn dod i’w meddyliau wrth feddwl am Ynys Môn.
Yn ôl Myfanwy, yr ateb mwyaf poblogaidd oedd y traethau.
“Wedyn fe fues i’n gwneud ymchwil i draethau a symbolau Celtaidd yr ynys, felly mae’r rhain i gyd yn themâu cryf yn nyluniad y goron,” meddai.
Mae’r Goron wedi ei rhoi gan Eiddo Cyf, Caergybi, sef cwmni gosod a gwerthu tai lleol.
Cafodd y seremoni ei noddi gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.
Yn ôl yr Urdd, mae buddugoliaeth Elin yn golygu bod merched wedi ennill y tair prif wobr lenyddol am y tair blynedd diwethaf.
Bydd gwaith Elin yn cael ei gyhoeddi ar ffurf llyfryn gan Gyhoeddiadau’r Stamp yn syth ar ôl y seremoni.