'Eira Wen' ardal Wrecsam eisiau diogelu anifeiliaid gyda mwy o fannau gwyrdd

ITV Cymru
ellie

Mae merch o Wrecsam sy’n achub anifeiliaid gwyllt eisiau gweld mwy o fannau gwyrdd i ddiogelu rhywogaethau ym myd natur. 

Mae Ellie Leeder, sy’n 20 oed, wedi dod yn adnabyddus yn ei hardal leol am achub anifeiliaid gwyllt sydd wedi’u hanafu.

Fe ddalodd Ellie sylw ei chymuned gyda fideo ohoni yn achub teulu o hwyaid bach y tu allan i archfarchnad leol. 

Erbyn hyn, mae’r fideo wedi cael ei gwylio dros 38,000 o weithiau, ac mae Ellie wedi derbyn yr enw “Eira Wen” gan rai.

Yn ôl adroddiad State of Nature, mae 18% o rywogaethau mewn perygl o gael eu colli o Gymru, ac mae gostyngiad cyfartalog o 20% wedi bod ym mhoblogaeth bywyd gwyllt cyffredinol y wlad ers 1994.

Byd Ellie

Mae achub ac edrych ar ôl anifeiliaid yn dod â hapusrwydd a boddhad i Ellie - ac mae’n “cyfoethogi ei bywyd”, meddai.

Ers postio fideo ohoni ei hun yn achub ac yn rhyddhau haid o hwyaid yn ôl i’w cynefin, mae pobl wedi gallu gweld ei hymdrechion i gadw anifeiliaid a byd natur yn ddiogel.

“O’n i ddim yn disgwyl i’r fideo gael cymaint o sylw. Mae’n beth neis - o’n i’n teimlo mor falch o fy hun.”

Cafodd Ellie ei magu ar fferm yn Wrecsam, lle dechreuodd helpu gyda’r anifeiliaid yn 12 oed.

Aeth ymlaen i ennill cymwysterau mewn gofal anifeiliaid yng Ngholeg Cambria yn Llaneurgain lle mae ei mam yn dysgu.

“Rydw i wedi bod o gwmpas anifeiliaid drwy gydol fy mywyd, felly dyna'r cyfan rydw i wedi'i adnabod.”

Image
ellie
Mae achub anifeiliaid yn cyfoethogi bywyd Ellie. Llun gan Ellie Leeder

Chwarel Mwynglawdd

Tan 1993, plwm a chalchfaen oedd yn cael eu cloddio yn Chwarel Mwynglawdd ym Minera ger Coedpoeth, Wrecsam. 

Bellach, mae’r hen chwarel yn warchodfa natur ar ôl ei hail-agor yn 2018. Mae Ellie yn canmol creu mannau gwyrdd fel hyn ac yn dweud y dylid ystyried creu mwy ar safleodd tebyg.

“Y tro cyntaf es i ar ôl iddi agor, wnes i ddim gweld unrhyw fywyd gwyllt, ond es i nôl gwpl o wythnosau yn ddiweddarach ac roedd cymaint yna, gan gynnwys anifeiliaid oedd wedi cael eu rhyddhau ar ôl iddyn nhw dderbyn gofal a gwella.”

Daw hyn ond wythnosau ar ôl i gronfa ddŵr Nant-y-Ffrith yn Sir Ddinbych gael ei draenio yn ystod tymor bridio'r gwanwyn. Yn ôl cadwraethwyr lleol, mae hyn wedi “dileu” poblogaethau bywyd gwyllt cyfan.

Gobaith Ellie yw gweld mwy o ardaloedd fel Chwarel Mwynglawdd er mwyn darparu lles a rhywle diogel i anifeiliaid yn ystod y gwanwyn.

“Mae ardaloedd llawn adeiladau yn effeithio ar siawns y babis o oroesi. Mae angen mannau gwyrdd er mwyn iddyn nhw gael cyfle i ffynnu a chyfle i fyw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.