Dynion o dde Cymru wedi eu harestio fel rhan o ymchwiliad i droseddau rhyw yn erbyn plant
Mae wyth dyn, tri ohonynt o Gymru, wedi cael eu cyhuddo o dros 30 o droseddau, gan gynnwys treisio, fel rhan o ymchwiliad i droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant.
Roedd ditectifs o Heddlu Gwent wedi arestio dynion o Abertawe, Casnewydd, Llundain, Birmingham, Caeredin, Sir Gaerhirfryn ac Argyll a Bute yn yr Alban ddydd Mawrth.
Daw'r ymchwiliad ar ôl i sawl menyw adrodd wrth yr heddlu eu bod nhw wedi cael eu cam-drin yn rhywiol pan oedden nhw'n blant rhwng 1985 a 1996, meddai'r heddlu.
Mae'r 34 cyhuddiad i gyd, 17 ohonynt yn gyhuddiadau o dreisio, yn ymwneud ag wyth dioddefwr gwahanol.
Mae disgwyl i'r dynion, sydd rhwng 54 a 73 oed, ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ar 24 Gorffennaf.
Mae cyhuddiadau yn erbyn:
• Shafaq Mohammed, 58 oed, o Birmingham. Mae wedi cael ei gyhuddo o 11 trosedd i gyd, sef pedwar cyhuddiad o dreisio menyw dan 16 oed, tri chyhuddiad o dreisio menyw 16 oed neu'n hŷn, dau gyhuddiad o gynorthwyo a chefnogi treisio menyw dan 16 oed, achosi puteindra menyw dan 16 oed ac achosi puteindra menyw.
• Mohammed Sheikh Abdul Hannan, 54 oed, o Gaeredin. Mae wedi cael ei gyhuddo o wyth trosedd i gyd, sef dau gyhuddiad o dreisio menyw 16 oed neu'n hŷn, un cyhuddiad o ymosodiad anweddus ar fenyw dros 16 oed, tri chyhuddiad o gynorthwyo a chefnogi treisio menyw dan 16 oed neu'n hŷn, a dau gyhuddiad o gynllwynio i dreisio menyw 16 oed neu'n hŷn.
• Syed Mohammad Ashan Taqvi, 65 oed, o Gasnewydd. Mae'n wynebu dri chyhuddiad o dreisio menyw dan 16 oed.
• Kevin Lawrence, 54 oed, o Dunoon. Mae wedi cael ei gyhuddo o dair trosedd, sef dau gyhuddiad o gynllwynio i dreisio menyw 16 oed neu'n hŷn ac un cyhuddiad o achosi puteindra menyw.
• Sheikh Mohammed Tahir Ullah, 73 oed, o Gasnewydd. Mae'n wynebu un cyhuddiad o dreisio menyw 16 oed neu'n hŷn ac un cyhuddiad o dreisio menyw dan 16 oed.
• Aminur Rahman Chowdhury, 58 oed, o Tottenham, Llundain. Mae wedi cael ei gyhuddo o dreisio menyw 16 oed neu'n hŷn.
• Shakeel Babur, 58 oed, o Sir Gaerhirfryn. Mae'n wynebu pedwar cyhuddiad o ymosodiad anweddus ar ferch dan 16 oed.
• Murad Ali, 57 oed, o Abertawe. Mae'n wynebu dau gyhuddiad o dreisio menyw dan 16 oed.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Andrew Tuck o Heddlu Gwent mai "cefnogi dioddefwyr" sydd wrth galon yr ymchwiliad.
"Roedd Operation Oak yn ymchwiliad hir, cymhleth i gamfanteisio rhywiol ar blant gan grwpiau yn ne Cymru," meddai.
"Mae cefnogi dioddefwyr wedi bod wrth galon ein hymchwiliad. Ochr yn ochr ag asiantaethau arbenigol, rydym yn parhau i ddarparu cefnogaeth iddynt.
"Rwyf yn gwybod bod ymchwiliad o'r natur hon yn gallu peri pryder yn ein cymunedau, ond mae'n bwysig i'r dioddefwyr yn yr achos yma ac i'r ymchwiliad nad yw sylwadau yn cael eu cyhoeddi ar-lein a allai effeithio ar waith y llysoedd."
