Dyn yn osgoi carchar ar ôl ceisio dwyn £330,000 oddi ar ei gyflogwr

Llys y Goron Caerdydd (CC by SA)

Mae dyn 48 oed wedi osgoi carchar ar ôl ceisio dwyn bron i £350,000 oddi ar ei gyflogwr.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Benjamin Ferrar, sydd wedi bod yn alcoholig ers gadael y brifysgol, wedi ceisio dwyn £330,000 ar ôl cael ei wahardd o'i swydd yn Bensons for Beds yng Nghwmbrân.

Cafodd ddedfryd o garchar wedi'i gohirio am ddwy flynedd a'i osod ar raglen driniaeth alcohol gan farnwr.

Roedd Ferrar yn yfed 300 uned o alcohol yr wythnos - sydd gyfystyr â phedair potel o win y dydd.

Ym mis Medi 2024 dychwelodd Ferrar i leoliad ei swydd yn Bensons for Beds wyth niwrnod wedi iddo gael ei wahardd.

Aeth i'r siop gyda'r nos a mynd i mewn yno gydag allwedd, cyn gwneud sawl trosglwyddiad i'w gyfrif banc.

Cafodd y rhan fwyaf o'r trosglwyddiadau eu gwrthod gan fanciau. £13,889 y llwyddodd i'w ddwyn oddi ar y cwmni.

Hanes

Cafodd Ferrar ei ddal gan yr heddlu ar ôl dychwelyd i Bensons for Beds am y trydydd tro a cheisio dwyn o'r siop.

Clywodd y llys iddo ddwyn bron i £11,000 ym mis Medi 2022 tra'n gweithio fel porthor yng ngwesty Carlyon Bay yn St Austell, Cernyw.

Mewn gwrandawiad blaenorol, roedd Ferrar o Plymouth wedi pledio'n euog i dri chyhuddiad o ladrata a phedwar cyhuddiad o fwrgleriaeth.

Dywedodd Owen Williams, oedd yn amddiffyn Mr Ferrar bod ei ddiffynnydd wedi cyflawni “sawl trosedd ddifrifol a lladradau gwerth miloedd o bunnoedd.

"Pan mae rhywun yn ystyried cefndir Mr Ferrar, yr hyn sydd yn digwydd yn ei fywyd ar hyn o bryd, a'r posibilrwydd o wella gydag ymyrraeth uniongyrchol o ran ei ddibyniaeth ar alcohol, mae cyfle da iddo wella."

Marw

Wrth roi dedfryd o garchar wedi'i gohirio am ddwy flynedd, dywedodd Mark Powell KC: “Yr unig esboniad yw'r un sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad cyn-ddedfrydu, sef ers i chi fod yn y brifysgol rydych chi wedi bod yn yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio orau fel alcoholig gweithredol iawn.

“Yr hyn sy’n rhyfeddol yw eich bod chi yma i sefyll ar gyfer eich dedfryd. Yr hyn sy’n rhyfeddol yw’r ffaith nad ydych chi wedi marw.

“O ganlyniad i’r diod rydych chi'n ei yfed, rydych chi'n dioddef o drawiadau epileptig.

“Rydych chi'n dioddef o drawiadau, ac mae’n rhaid eu rheoli’n iawn achos fel arall, a bod yn blwmp ac yn blaen, rydych chi'n mynd i farw.”

Dywedodd y barnwr fod troseddu Ferrar yn haeddu dedfryd o garchar ar unwaith ond byddai rheoli ei iechyd sy'n dirywio yn rhoi baich ar y gwasanaeth carchardai.

“Fe ddyliwn i eich anfon i'r carchar am dair neu hyd yn oed bedair blynedd, ond rwy'n barod i wyro oddi wrth y canllawiau ar gyfer dedfrydu er mwyn i mi i roi dedfryd y gallaf ei hatal,” meddai.

“Dim ond oherwydd bod y dewis arall yn ymddangos eich bod chi'n mynd i farw yn ystod y ddwy flynedd nesaf yr wyf yn gwneud hynny."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.