Dyn wedi marw mewn ras yn ardal Pen y Fan
Mae dyn 68 oed wedi marw wrth gymryd rhan mewn ras yn ardal Pen y Fan ym Mannau Brycheiniog.
Dywedodd trefnwyr Cyfres Rasys Fan Dance ei fod wedi marw ddydd Sadwrn yn ystod un o ddigwyddiadau’r gyfres.
Mae’r Fan Dance yn orymdaith 15 milltir ar draws Bannau Brycheiniog. Mae’n enwog fel prawf dethol Lluoedd Arbennig y DU (SAS) ers dros 60 mlynedd, ac mae’r ras wedi bod ar agor i’r cyhoedd ers 2013.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael eu galw i ardal Pen y Fan yn dilyn pryderon am les dyn 68 oed.
Nid yw ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.
Mewn datganiad, dywedodd cyfarwyddwr y ras, Ken Jones: “Mae ein ffocws a’n meddyliau gyda’r teulu.
“Ni fydd [y trefnwyr] AEE, na minnau fel Cyfarwyddwr y Ras, yn cyhoeddi unrhyw ddatganiad pellach i’r wasg nes bod gan y teulu linell amser lawn y digwyddiadau, a’u bod wedi cymeradwyo unrhyw negeseuon pellach.”
Diolchodd i’r Gwasanaeth Ambiwlans Awyr, Tîm Achub Mynydd Aberhonddu, a Thîm Diogelwch Mynydd AEE am eu “hymateb cyflym a’u proffesiynoldeb”.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’r bobl hynny a oedd yn bresennol yn y digwyddiad, ac y gwnaeth eu hymateb proffesiynol nhw hefyd helpu i reoli’r digwyddiad sylweddol a heriol hwn,” meddai.