Dyn wedi ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych
Mae dyn wedi'i anafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhrestatyn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Victoria yn y dref am 17.36 brynhawn dydd Llun yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng Vauxhall Mokka a cherddwr.
Cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty yn Stoke ar ôl dioddef anafiadau sydd yn peryglu ei fywyd.
Mae Heddlu'r Gogledd yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a oedd yng nghyffiniau Ffordd Victoria ar y pryd ac a allai fod â lluniau dash-cam, i gysylltu â swyddogion gan ddyfynnu'r cyfeirnod 26000311780.
Llun: Google
