Dyn o Brydain wedi marw mewn damwain bws ar yr Ynysoedd Dedwydd
Daeth cadarnhad mai dyn o Brydain a fu farw pan blymiodd bws i mewn i geunant ar yr Ynysoedd Dedwydd ddydd Gwener.
Roedd y bws yn cludo 27 o dwristiaid Prydeinig ar ynys La Gomera toc wedi 13:00.
Mae pedwar o bobl wedi eu hanafu'n ddifrifol yn ôl y llywodraeth leol yno
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Rydym yn cefnogi teulu'r dyn o Brydain a fu farw yn y ddamwain bws ar yr Ynsyoedd Dedwydd, ac mewn cyswllt â'r awdurdodau'n lleol."
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle'r ddamwain yn San Sebastian de La Gomera, ar arfordir dwyreiniol ynys La Gomera brynhawn Gwener.
Mae'n ymddangos fod y bws wedi gwyro oddi ar y ffordd ar droad cyn llithro i mewn i geunant, yn ôl lluniau y mae llywodraeth yr Ynysoedd Dedwydd wedi eu cyhoeddi.
Cafodd dyn 73 oed a dyn 42 oed eu cludo i ysbyty Nuestra Senora de Guadalupe yn San Sebastian de La Gomera, gydag anafiadau gwael, cyn iddyn nhw gael eu trosglwyddo mewn hofrennydd i ysbytai yn Tenerife.
Cafodd dau arall sydd ag anafiadau difrifol eu cludo i ysbyty Nuestra Senora de Guadalupe, yn ogystal â 23 person arall oedd â mân anafiadau.
Dywedodd Ysgrifennydd Tramor San Steffan Yvette Cooper ei bod yn meddwl am deuluoedd y rhai sydd wedi dioddef yn y digwyddiad "trasig" hwn gan ychwanegu fod Llywodraeth y DU mewn cysylltiad â'r awdurdodau yn lleol ac yn "barod i gefnogi" Prydeinwyr a'u teuluoedd.