Dyn 60 oed wedi ei anafu mewn ymosodiad honedig yn Abertyleri
Mae'r heddlu yn ymchwilio ar ôl i ddyn 60 oed gael anafiadau difrifol i'w ben wedi ymosodiad honedig yn Abertyleri, Blaenau Gwent tua hanner nos ar 4 Mai.
Yn ôl Heddlu Gwent, cafodd y dyn ei ddarganfod wedi ei anafu ar heol gul oddi ar Division Street.
Cafodd ei gludo i'r ysbyty, a'r gred yw nad yw ei anafiadau yn rhai sy'n peryglu ei fywyd.
Mae'r heddlu'n awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn yr ardal rhwng 23:30 nos Sul 3 Mai, a 12:30 fore Llun 4 Mai, neu sydd â gwybodaeth allai fod yn ddefnyddiol i'w hymchwiliad.
2600137848 yw'r rhif i'w nodi wrth gysylltu â Heddlu Gwent gydag unrhyw wybodaeth.
Mae modd ffonio 101 neu anfon neges breifat drwy gyfryngau cymdeithasol neu wefan y llu.
