Dyn 22 oed o Wynedd wedi ei gyhuddo o droseddau terfysgol yn llys yr Old Bailey
Mae dyn o Wynedd wedi ymddangos yn y llys i wynebu cyhuddiadau o droseddau terfysgol ar ôl iddo gael ei ganfod, yn honedig, gyda llawlyfr yr IRA ar ei ffôn symudol.
Mae Jac Glyn Edwards, 22 oed, o'r Bermo yn wynebu pedwar cyhuddiad o feddu ar gofnod sy'n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i derfysgaeth, ac un cyhuddiad o brynu pistol cetris gwag.
Mae'r cyhuddiadau'n nodi'r honiad bod Edwards wedi cael ei ganfod gyda phedair dogfen a fyddai'n debygol o fod yn ddefnyddiol i berson sy'n cyflawni neu'n paratoi gweithred o derfysgaeth.
Dywedodd yr erlynydd Christopher Amis wrth wrandawiad rhagarweiniol yn yr Old Bailey ddydd Gwener fod y deunydd honedig yn cynnwys llawlyfr yr IRA a llawlyfr ar ryfela guerrilla.
Mae Edwards hefyd wedi ei gyhuddo o brynu neu gaffael arf tanio, sef pistol sy'n tanio cetris gwag, ym mis Mehefin 2024.
Anfonwyd yr achos i Lys y Goron Lerpwl, gyda dyddiad rhagarweiniol ar gyfer ei achos llys ym mis Hydref 2027.
Bydd Edwards yn ymddangos nesaf yn yr un llys ar 6 Tachwedd ar gyfer gwrandawiad ple a pharatoi ar gyfer yr achos llys.