'Dyma ddiwedd fy nhaith wleidyddol,' meddai Keir Starmer
Mae’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi dweud ei fod “yn ddiwedd ar fy nhaith wleidyddol” wrth iddo baratoi i gamu o'r neilltu fel arweinydd y wlad.
Mae disgwyl i Andy Burnham gael ei benodi’n Brif Weinidog ddydd Llun nesaf wedi i Starmer gyhoeddi fis diwethaf ei fod ildio arweinyddiaeth y blaid Lafur, ynghyd â’i rôl fel Prif Weinidog.
Ddydd Mercher, yn ei sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog olaf, dywedodd yn Nhŷ’r Cyffredin ei fod “yn falch o bopeth yr ydym wedi’i gyflawni”.
“Mae pob Prif Weinidog yn gwybod pan maen nhw’n derbyn y dortsh, fe ddaw'r dydd pan fydd yn rhaid ei roi’n ôl. Mae’r diwrnod hwnnw wedi cyrraedd i mi," meddai.
“Dyma ddiwedd fy nhaith wleidyddol.
“Mewn chwe blynedd, aethom o golled hanesyddol yn 2019 i fuddugoliaeth hanesyddol yn 2024, ac mewn dwy flynedd mewn llywodraeth, rwy’n gadael y wlad mewn gwell safle na phan gyrhaeddais.”
Fe ychwanegodd: “I fy olynydd, a phob un ohonoch, rydw i’n rhoi fy nghefnogaeth lawn.”
Fe ofynnodd Kemi Badenoch, arweinydd y Ceidwadwyr, i Starmer a ddylai Burnham fod yn Nhŷ’r Cyffredin i wynebu cwestiynau, yn lle “dianc am yr haf”.
Atebodd Starmer drwy ddweud ei fod wedi rhoi atebion mewn sesiynau cwestiynau “o leiaf 2,800 o weithiau” a dywedodd y byddai’n siŵr y byddai Badenoch yn cwestiynu ei olynydd yn yr un modd.
Mae disgwyl i Burnham wynebu ei sesiwn cyntaf fel Prif Weinidog fis Medi ar ôl egwyl y Senedd dros yr haf.
Yn ei chwestiwn olaf i Mr Starmer, fe ddiolchodd Badenoch i deulu Starmer am “y cariad a’r gefnogaeth maen nhw wedi dangos iddo drwy gydol ei amser yn y swydd".
Fe ddiolchodd Mr Starmer am y sylw.
Fe wnaeth arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Ed Davey ddiolch i Mr Starmer am ei “wasanaeth cyhoeddus” a’i alw’n “wir wladgarwr”.
Fe wnaeth Starmer a Badenoch hefyd roi teyrnged i’r ddiweddar Ann Widdecombe, y cyn aelod seneddol a fu farw’r wythnos diwethaf.