Dwy athrawes ifanc yn mynd i Batagonia i ddysgu Cymraeg am 10 mis
Fe fydd dwy athrawes ifanc yn treulio'r 10 mis nesaf yn dysgu Cymraeg ym Mhatagonia, wedi i brofiadau personol danio eu hangerdd dros yr iaith.
Fe fydd Angharad Davies o Bont-y-clun, Rhondda Cynon Taf, a Megan Elias o Hen Golwyn yn treulio'r 10 mis nesaf ym Mhatagonia yn yr Ariannin.
Fe fydd y ddwy yn teithio i Batagonia fel rhan o Gynllun yr Iaith Gymraeg y British Council, gan gefnogi cymunedau Cymraeg eu hiaith yn rhanbarth Chubut lle mae dros 6,000 o bobl yn parhau i siarad yr iaith.
Nid yw'r ddwy wedi cwrdd â'i gilydd eto, ond mae'r ddwy yn gyn-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor.
Roedd profiad y ddwy wrth dyfu i fyny hefyd yn debyg gan nad oedd ganddynt lawer o gyswllt â'r Gymraeg.
"Ro'n i'n siarad Cymraeg yn yr ysgol a gyda fy nhad a'i ochr e o'r teulu, ond Saesneg ro'n i'n siarad fwyaf wrth gymdeithasu, er mod i wedi mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg. Roedd yr ardal lle ces i fy magu yn ddylanwad mawr ar hynny," meddai Angharad.
"Pan es i Brifysgol Bangor, roedd pobl o fy nghwmpas yn siarad Cymraeg yn naturiol â'u ffrindiau, a'i ddefnyddio bob dydd. Bu hynny'n agoriad llygad.
"Nid rhywbeth ar gyfer yr ysgol neu'r gwaith yn unig oedd y Gymraeg, roedd yn iaith gymunedol fyw. Cafodd y profiad yna effaith enfawr arna i."
Y trip cyntaf erioed i Eisteddfod yr Urdd gyda'r ysgol oedd y profiad a wnaeth danio angerdd Megan dros yr iaith.
"Ym Mlwyddyn 13, yn ystod fy wythnos olaf, roedd yr ysgol wedi trefnu trip i Eisteddfod yr Urdd yn y Bala.
"Er mai trip i ddisgyblion Blwyddyn 9 oedd o, gan fod seddi sbâr ar y bws gofynnodd fy athrawes Gymraeg os oeddwn i eisiau mynd. Do'n i erioed wedi bod i Eisteddfod o'r blaen," meddai.
"Do'n i erioed wedi gweld cymaint o bobl yn siarad Cymraeg a rhannu diwylliant mor arbennig - doedd gen i ddim syniad fod byd o'r fath yn bodoli! Y diwrnod hwnnw, penderfynais fy mod eisiau siarad Cymraeg yn rhugl.
"Fe wnes i newid fy nghynlluniau i astudio Cyllid ym Mhrifysgol Lancaster a rhoi galwad munud olaf i Brifysgol Bangor i ofyn a gawn i astudio Cymraeg yno. A dyna wnes i. Ac fe newidiodd fy mywyd yn llwyr."
Bellach, mae'r ddwy ohonynt wedi graddio a chymhwyso'n athrawon, ac maent yn awyddus iawn i rannu eu hangerdd dros y Gymraeg gydag ysgolion a chymunedau Patagonia.
"Dw i'n gwybod fod llai o bobl yn siarad Cymraeg yno nag yma yng Nghymru, ond ro'n i eisiau cyfrannu, a hefyd profi i fi fy hun y gallwn wneud gwahaniaeth. Ro'n i wedi cael profiad uniongyrchol o ba mor anodd yw cynnal yr iaith mewn ardal lle mae pobl yn siarad Saesneg yn bennaf," meddai Angharad.
"Roedd hynny'n ysgogiad mawr i fi wneud cais i gymryd rhan yn y cynllun."
Fe dreuliodd Megan gyfnod yn dysgu yn Awstralia ar ôl graddio, ac mae'n edrych ymlaen at ddysgu ym Mhatagonia y tro hwn.
"Ar ôl tair blynedd, roedd fy fisa'n dod i ben, a do'n i ddim yn gwybod beth ro'n i am wneud nesaf. Fe welais i'r cyfle i fynd i Batagonia. Ac ar ôl bod yn teithio ar fy mhen fy hun am dair blynedd, dyma fi'n meddwl - dyma'r cyfle perffaith," meddai.
"Ac mae ymweld â Phatagonia, neu fynd yno i ddysgu, wedi bod yn freuddwyd gen i ers dysgu Cymraeg yn yr ysgol. Felly, roedd yn teimlo mod i'n gwneud y cylch yn gyflawn."
Fe fydd Angharad yn dysgu disgyblion cynradd yn ystod y dydd, ac oedolion gyda'r hwyr - yn Nhrelew, Gaiman a Dolavon, gydag ymweliadau misol i Puerto Madryn.
Bydd Megan yn gweithio'n bennaf yn yr ysgol leol yn Nhrevelin, a hefyd yn teithio i Esquel i ddysgu oedolion yn y ganolfan iaith yno.