Duffy yn cadarnhau y bydd hi'n dychwelyd i'r byd cerddoriaeth gyda 'gig cyfrinachol'

Duffy (Reuters)

Mae’r gantores Duffy, sy'n wreiddiol o Nefyn ym Mhen Llŷn, wedi cadarnhau ei bod am ddychwelyd i’r byd cerddoriaeth gyda "gig cyfrinachol" i nifer fach o bobl yn Llundain ym mis Gorffennaf.

Dywedodd Duffy mewn neges ar Instagram y bydd yn "canu rhai caneuon newydd" yn y gig lle fydd "dim ond ychydig" o bobl yn medru mynychu.

Ar ddiwedd mis Mai, dywedodd y gantores 41 oed ei bod yn "gweithio i ddod yn ôl atoch chi", ynghyd â llun ohoni hi’n eistedd mewn stiwdio recordio.

Daw’r negeseuon yn dilyn cyhoeddiad fis Mawrth y byddai Duffy yn ymddangos mewn rhaglen ddogfen newydd, gan drafod am y tro cyntaf ei phrofiad o gael ei herwgipio ac o wynebu ymosodiad rhyw.

Bydd y gantores, sydd yn enwog am ei chaneuon 'Mercy' a 'Warwick Avenue', yn siarad yn agored am ei bywyd fel ffigwr cyhoeddus a'i bywyd preifat mewn rhaglen ddogfen newydd ar Disney+. 

Fe ddaeth y seren yn adnabyddus wedi i'w halbwm Rockferry gael ei rhyddhau yn 2008.

Roedd y gân 'Mercy' yn rhif un yn y siartiau cerddoriaeth Prydeinig am bum wythnos y flwyddyn honno.

Fe ddatgelodd y gantores yn 2020 ei bod hi wedi cael ei threisio a'i chaethiwo.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.