Croesawu ymestyn y cadoediad rhwng lluoedd America ag Iran
Mae Llywodraeth y DU wedi croesawu ymestyn y cadoediad rhwng lluoedd yr Unol Daleithiau ac Iran ar ôl i o leiaf ddwy long ddioddef ymosodiadau yng Nghulfor Hormuz.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor Yvette Cooper fod Prydain eisiau gweld "setliad cynhwysfawr" ac "ailagor yn llawn" ar y cilfor allweddol heb gyfyngiadau na thollau ar ôl i Donald Trump gyhoeddi y byddai'n ymestyn y cadoediad.
Dywedodd arlywydd yr Unol Daleithiau fod y cam munud olaf yn dilyn cais gan Bacistan, sydd wedi bod yn ganolwr rhwng y ddwy wlad yn y gwrthdaro.
Dywedodd Ms Cooper mewn datganiad ddydd Mercher: "Mae'r DU yn croesawu ymestyn y cadoediad.
"Rydym am weld trafodaethau'n ailgychwyn, setliad cynhwysfawr ac ailagor y culfor yn llaw heb gyfyngiadau na thollau.
"Byddai unrhyw ddychwelyd i elyniaeth yn ergyd fawr i'r rhanbarth, yr economi fyd-eang a chost byw."
Y gred oedd y byddai'r Unol Daleithiau yn dechrau bomio Iran unwaith eto ar ôl i'r cadoediad ddod i ben. Ond ar yr unfed awr ar ddeg fe ddywedodd Donald Trump y byddai yn ymestyn y cadoediad.
Dywedodd Arlywydd America y byddai yn gwneud hyn tan y byddai Tehran yn gallu cyflwyno "cynnig unedig" er mwyn symud y trafodaethau heddwch ymlaen.
Ond mae hefyd wedi dweud y bydd y blocâd ar borthladdoedd Iran yn parhau.
Mae llefarydd ar gyfer materion tramor Iran wedi dweud wrth y BBC nad ydyn nhw wedi penderfynu eto a fyddan nhw yn anfon cynrychiolwyr i Bacistan ar gyfer trafodaethau gydag America.