'Diwylliant o drafod yn Saesneg': Galw am ddod â Chomisiwn y Senedd o dan Safonau'r Gymraeg

Heledd Gwyndaf - Comisiwn y Senedd

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ailadrodd ei galwad am ddod â Chomisiwn y Senedd o dan Safonau’r Gymraeg, gan ddadlau bod gwybodaeth newydd yn dangos nad oes modd i ASau ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’u gwaith.

Daw’r alwad ar ôl i ymateb y Comisiwn i gais rhyddid gwybodaeth awgrymu nad oedd gan dri o 14 tîm clercio pwyllgorau’r Senedd aelod o staff oedd yn gallu siarad ac ysgrifennu’n rhugl yn Gymraeg.

Yn ôl eu hymatebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth gan Gymdeithas yr Iaith, dim ond un tîm clercio pwyllgorau lle roedd pob aelod o staff yn gallu gweithio'n rhugl yn Gymraeg oedd yn y sefydliad.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau nad yw'r trefniadau presennol yn ddigonol i sicrhau bod ASau yn gallu defnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o'u gwaith, ac mae'n galw am oruchwyliaeth annibynnol gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Mewn ymateb, dywedodd Comisiwn y Senedd fod Aelodau'n cael cymorth gan bob tîm clercio yn yr iaith o'u dewis, gan bwysleisio ei ymrwymiad i fod yn sefydliad dwyieithog.

'Rhwystr i ddefnyddio'r Gymraeg'

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, fod y sefyllfa'n effeithio ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yng ngwaith dyddiol y Senedd.

"Mae hwn yn amlwg yn rhwystr i ddefnydd o’r Gymraeg yn y Senedd mewn pwyllgorau, mewn trafodaethau cyffredinol, ar lawr y siambr ac ar y coridorau yn gyffredinol," meddai.

"Mae’n golygu bod diwylliant yn y Senedd o drafod trwy gyfrwng yr Saesneg.

"Ac felly mae angen penodi staff cefnogol sydd yn medru’r Gymraeg, a mae angen safonau er mwyn gwneud hynny achos bod yn amlwg bod y Cynllun Ieithoedd Swyddogol wedi methu."

Mae clercod pwyllgorau yn cefnogi gwaith ASau, gan gynnwys paratoi papurau, trefnu cyfarfodydd a chynorthwyo cadeiryddion.

Image
Heledd Gwyndaf
Heledd Gwyndaf 

Mae Heledd hefyd yn beirniadu'r ffordd mae'r Comisiwn yn goruchwylio ei drefniadau ieithyddol.

"Ar hyn o bryd maen nhw’n edrych ar eu hunain a rheoleiddio eu hunain i weld pa mor dda ydyn nhw," meddai.

"Mae e’n rhy wan. Felly dyw e ddim yn cefnogi nac yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y Senedd."

Mae Comisiwn y Senedd yn bwriadu adolygu ei Gynllun Ieithoedd Swyddogol yn ystod tymor presennol y Senedd.

Yn ôl Heledd, mae'n rhaid i'r adolygiad hwnnw ystyried dod â'r Comisiwn o dan Safonau'r Gymraeg ac o dan oruchwyliaeth Comisiynydd y Gymraeg.

"Ni'n siarad am hawliau pobol fan hyn," meddai.

Mae hi hefyd eisiau gweld amserlen glir ar gyfer adolygu'r trefniadau.

"Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn glir ar sut mae’r cyhoedd yn mynd i allu cyfrannu i hyn," meddai.

Beth mae'r ffigurau'n ei ddangos?

Mewn ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth ar 23 Hydref, dywedodd Comisiwn y Senedd fod 11 o’i 14 tîm clercio pwyllgorau yn cynnwys o leiaf un aelod o staff sy’n gallu siarad ac ysgrifennu’n rhugl yn Gymraeg.

Nododd fod rhai aelodau o staff yn y tri thîm arall yn ddysgwyr hyfedr (proficient).

Dywedodd y Comisiwn mai yn 2024 y cafodd yr arolwg diweddaraf o sgiliau Cymraeg staff ei gynnal, ac y gallai newidiadau ers hynny olygu nad yw’r wybodaeth yn adlewyrchu’r sefyllfa bresennol yn llawn.

Ychwanegodd fod pwyllgorau hefyd yn defnyddio staff o wasanaethau eraill yn dibynnu ar y gwaith sy’n cael ei wneud.

Image
Rebeca Phillips AS
Rebeca Phillips AS

Mae Rebeca Phillips AS o Blaid Cymru hefyd wedi mynegi cefnogaeth i’r alwad am ddod â Chomisiwn y Senedd o dan Safonau’r Gymraeg.

Wrth gael ei holi’n uniongyrchol a oedd hi’n cytuno â Chymdeithas yr Iaith, fe atebodd: “Ydw.

“Mae’n rhoi neges clir bod ni am gael y Gymraeg i’w defnyddio yn ein sefydliad cenedlaethol ni, sy’n rhywbeth bwysig iawn.”

Ond wrth drafod y canfyddiadau, fe wnaeth hi dynnu ar ei phrofiad personol o weithio gyda staff y Senedd.

“A mae’n rhaid i fi ddweud yn bersonol, dw i ddim ’di cael unrhyw broblemau o ran clercod pwyllgorau ddim yn medru’r iaith,” meddai.

Fe wnaeth hi bwysleisio hefyd bwysigrwydd cefnogi’r gweithlu a “dod â phobl gyda ni gam wrth gam” wrth wneud newidiadau.

Ar y cyfan, roedd hi’n gadarnhaol am y defnydd o’r iaith yn y sefydliad.

“Dwi’n clywed y Gymraeg yn y Senedd mwy nag erioed, ar bryd hyn,” meddai.

Galw am oruchwyliaeth annibynnol

Ar hyn o bryd, mae Comisiwn y Senedd yn gweithredu o dan Gynllun Ieithoedd Swyddogol, yn unol â Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012, yn hytrach na Safonau’r Gymraeg.

Mae’r cynllun yn gosod dyletswyddau statudol ar y Comisiwn, ac mae’r Senedd yn craffu arno’n flynyddol.

Mae pwyllgorau’r Senedd hefyd yn craffu ar waith Comisiynydd y Gymraeg. Mae hynny’n wahanol i rôl Comisiwn y Senedd, sy’n gyfrifol am wasanaethau a gweinyddiaeth y sefydliad.

Byddai dod â’r Comisiwn o dan Safonau’r Gymraeg yn golygu newid y fframwaith cyfreithiol, gyda’r Comisiynydd yn gallu ymchwilio i honiadau o dorri’r safonau a defnyddio ei bwerau gorfodi lle bo angen.

Wrth ymateb, fe wnaeth Comisiwn y Senedd bwysleisio bod ei Gynllun Ieithoedd Swyddogol yn ofyniad statudol.

“Mae ein Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn ofyniad statudol ac yn sail i’n hymrwymiad i Senedd wirioneddol ddwyieithog, lle gall pobl weithio, cyfathrebu ac ymgysylltu yn eu dewis iaith.”

Ychwanegodd fod y cynllun yn cael ei adolygu bob tymor Senedd.

“Bydd ymgynghori â rhanddeiliaid yn rhan bwysig o’r broses adolygu ar gyfer y Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn y Seithfed Senedd.”

Ymateb swyddfa Comisiynydd y Gymraeg

Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi cadarnhau bod trafodaethau wedi’u cynnal gyda swyddogion Comisiwn y Senedd cyn dechrau tymor y Senedd er mwyn cefnogi defnyddio’r Gymraeg yn y sefydliad.

Mewn datganiad i Newyddion S4C, dywedodd llefarydd: “Mae cynyddu’r Gymraeg mewn gweithleoedd megis y Senedd yn un o’n blaenoriaethau gan fod y maes hwn yn cynnig cyfle gwirioneddol i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol.

“Er nad yw’r un berthynas reoleiddio sydd gennym â sefydliadau sydd o dan safonau’r Gymraeg yn weithredol yn yr achos hwn rydym yn gweithredu yn unol ag egwyddorion ein gwaith rheoleiddio.

“Bydd paratoi Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd ar gyfer y Senedd yn gyfle i gryfhau’r darpariaethau presennol a diweddaru strategaeth sgiliau dwyieithog y sefydliad.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Ni wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau a oedd yn cefnogi’r alwad i ddod â Chomisiwn y Senedd o dan Safonau’r Gymraeg.

Mewn datganiad i Newyddion S4C, dywedodd: “Mae cryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg a chynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn flaenoriaethau allweddol i ni.”

Fe wnaeth bwysleisio bod gan y Senedd drefniadau statudol penodol ar gyfer y Gymraeg.

“Mater i Gomisiwn y Senedd yw’r cynllun hwnnw, sy’n cael ei adolygu ym mhob Senedd ac yn destun craffu blynyddol gan y Senedd.”

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu ymestyn Safonau’r Gymraeg i sectorau newydd, gan gynnwys cyrff Llywodraeth y DU.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.