Diwrnod y Llyfr: Ysgolion Cymru 'dan fwy o bwysau' ar ôl Dydd Gŵyl Dewi

Helgard Krause

Mae rhieni ac ysgolion yng Nghymru dan “fwy o bwysau” ar Ddiwrnod y Llyfr o'u cymharu â gwledydd eraill gan ei fod mor fuan ar ôl Dydd Gŵyl Dewi. 

Yng Nghymru a gwledydd eraill y DU, mae Diwrnod y Llyfr yn cael ei chynnal ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mawrth – sef ychydig o ddyddiau yn unig ar ôl Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth. 

Eleni, gyda Dydd Gŵyl Dewi ar y ddydd Sul a Diwrnod y Llyfr ar y dydd Iau bydd nifer o ysgolion yn dathlu'r ddau yn ystod yr un wythnos.

Mae Helgard Krause, prif weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru yn dweud y gallai hynny greu pwysau ychwanegol ar ysgolion, yn ogystal â rhieni sy’n wynebu gorfod prynu sawl gwisg i’w plant ar gyfer yr wythnos. 

Mae'n dweud y dylid ystyried dathlu llyfrau “gyda gweddill y byd” a hynny ar Ddiwrnod y Llyfr Rhyngwladol UNESCO ar 23 Ebrill. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Dwi ddim cweit yn deall y rhesymau pam – ond mae Cymru, achos dan ni’n rhan o Brydain, yn dathlu ar y diwrnod yma. 

“Dwi’n credu y dylwn ni ddathlu gyda gweddill y byd. 

“I ni yng Nghymru dwi’n gwybod bod ysgolion yn ffeindio fe’n anodd gyda holl ofynion Gŵyl Dewi Sant yn agos iawn i Ddiwrnod y Llyfr, ac mae hwn yn gallu creu lot o bwysau ar ysgolion. 

“Nid y concept yw’r issue, ond y timing.”

Ychwanegodd Helgard Krause ei bod yn bryderus bod llai o blant yn darllen fel hobi y tu allan i furiau ysgol bellach..

Dim ond 32.7% o blant rhwng wyth ac 18 yn y DU oedd yn mwynhau darllen yn ystod eu hamser hamdden yn ôl ffigyrau 2025 – sef gostyngiad o 36% ers i'r Ymddiriedolaeth Llythrennedd Cenedlaethol ddechrau cadw cofnodion yn 2005.

Image
Rhiannon a'i plant
Rhiannon Elis-Williams a'i theulu (Llun: @awenmenai17/Instagram)

'Llyfrau yn dal eu tir'

Mae rhai perchnogion siopau llyfrau wedi dweud fod Diwrnod y Llyfr yn hollbwysig iddyn nhw o ran denu mwy o blant a phobl ifanc i mewn i’w siopau. 

“Dyna’r strygl swni’n deud ydy cael pobl ifanc i mewn i’r siop,” medd Rhiannon Elis-Williams, cyd-berchennog ar siop llyfrau Awen Menai ym Mhorthaethwy ar Ynys Môn ers 15 mlynedd.

Mae Rhiannon a’i gwr wedi bod yn berchen ar eu siop bresennol ers 10 mlynedd y mis hwn ac maen nhw’n dweud eu bod “wedi synnu faint mae llyfrau wedi dal eu tir”. 

“Mae’r siopau mawr fel Amazon yn amlwg yn ein taro ni ond does 'na ddim fawr fedrwn ni neud heb law am bwysleisio’r ffactorau sydd genna ni fel siop ar y stryd fawr," meddai.

“Mae lot o neiniau a theidiau yn dod gyda phlant bach… yn sicr pan mae plant bach yn dod ‘ma, munud ma’ nhw’n gweld llyfrau, maen nhw wrth eu boddau. 

“Ac mae’r un peth pan dan ni’n mynd a stondin i mewn i’r ysgol uwchradd, mae pobl ifanc wrth eu boddau.” 

'Hyderus'

Mae Nia Clwyd Owen, Cadeirydd Bys a Bawd Pawb, yn dweud ei bod yn hyderus y bydd yna ddyfodol i siopau a llyfrau Cymraeg. 

Fe gafodd perchnogaeth siop Bys a Bawd yn Llanrwst ei drosglwyddo i’r grŵp cymunedol Bys a Bawd Pawb gyda chymorth a buddsoddiad pobl leol y llynedd.

“Mae’r ffaith bod cannoedd o bobl wedi buddsoddi yn Bys a Bawd Pawb yn dangos bod ‘na ddyfodol i’r siop, bod ‘na ddyfodol i’r farchnad llyfrau Cymraeg,” meddai Ms Owen, Cynghorydd Plaid Cymru dros Lanrwst, Llanddoged a Maenan.

“Ag oherwydd hynny dan ni’n teimlo ma’ nhw ‘di buddsoddi’n barod, ond byddwn nhw hefyd yn buddsoddi trwy roi amser yn y siop a phrynu nwyddau.

“Dan ni’n obeithiol iawn, yn enwedig gan fod ni ydy’r unig siop lyfrau Cymraeg yn y sir, y bydd gennym ni gwsmeriaid yn dod yn ôl aton ni dro ar ôl tro.” 

Image
Bys a Bawd
Aelodau cymuned Bys a Bawd Pawb (Llun: @bysabawdpawb/Instagram)

Fe fydd Bys a Bawd Pawb yn agor dros dro yn swyddfa Menter Iaith Conwy "yn fuan" wrth i waith adnewyddu gymryd lle yn y siop ei hunain, a fydd ar agor y penwythnos hwn i werthu stoc bresennol.

Mae gwasg Y Lolfa yn dweud bod digwyddiadau fel Diwrnod y Llyfr yn “bwysig fel rhan o’r ymgyrch i annog plant i ddarllen.” 

“Mae diffodd pob sgrîn i ddarllen llyfr print hefyd yn cynnig dihangfa ac yn fodd i blant ac oedolion ail-afael ar y grefft o ganolbwyntio.”

Cyfryngau cymdeithasol

Ond mae yna bryderon ehangach hefyd am yr ostyngiad yn nifer y plant ac oedolion sy’n darllen yn yr oes ddigidol. 

Ac mae Helena Krause yn dweud y byddai hi “yn bersonol” am weld camau tuag at wahardd ffonau symudol ar gyfer plant yn yr ysgol. 

Mae Ms Krause yn credu mai’r cyfryngau cymdeithasol sydd yn gyfrifol am leihad yn nifer y bobl sy’n darllen yn gyffredinol, a bod hynny’n effeithio ar allu unigolion i ganolbwyntio. 

“Dwi meddwl bod darllen yn cystadlu gyda lot o gynigion sydd tu fas. Mae rhaid i chi eistedd i lawr ac agor y llyfr a chanolbwyntio ar ‘neud e – mae rhaid i chi ‘neud e. 

“Does ‘na ddim immediate dopamine release pan da chi’n darllen. Yn y dechrau mae’n teimlo tipyn bach fel ymdrech ac mae instant gratification jyst ddim yn digwydd fel gyda’r cyfryngau cymdeithasol. 

“Dwi ddim yn credu bod pobl yn actively penderfynu ‘O, fyddai ddim yn darllen.’ Ond beth sydd yn digwydd yw dyw nhw ddim yn cael y buzz immediate o agor llyfr.” 

Image
Ffonau symudol

'Penderfyniad gwleidyddol'

Mae Ms Krause yn cydnabod y byddai gwahardd ffonau symudol yn ysgolion Cymru yn "benderfyniad masif a gwleidyddol iawn." 

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod llythrennedd yn “flaenoriaeth genedlaethol.”  

"Ar hyn o bryd mae gan bob ysgol yng Nghymru y rhyddid i osod eu polisïau ffôn symudol eu hunain, sy'n aml yn cynnwys cyfyngu eu defnydd yn ystod gwersi a/neu yn ystod amser egwyl," medden nhw.

“Yn dilyn yr Uwchgynhadledd Ymddygiad Genedlaethol, fe wnaethom sefydlu fforwm ffôn symudol ac mae gwaith ar y gweill i ddatblygu canllawiau ac adnoddau newydd ar gyfer ysgolion."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet Cysgodol dros Addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar AS y byddai ei phlaid yn gwahardd ffonau symudol mewn ysgolion pe baen nhw'n dod i rym. 

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn glir y dylai ystafelloedd dosbarth fod yn fannau ar gyfer dysgu," meddai.

"Dyna pam y byddem yn gwahardd ffonau symudol mewn ysgolion ac yn cefnogi cyfyngu ar gyfryngau cymdeithasol i bobl dan 16 oed, fel y gall disgyblion ganolbwyntio ar ddysgu a datblygu’r sgiliau craidd sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol.”

Mae llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Cefin Campbell AS, yn dweud y byddai’r blaid yn “cyfyngu ar y defnydd o ffonau clyfar mewn ysgolion”.

"Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i roi cynllun llythrennedd ar waith o fewn y 100 diwrnod cyntaf i godi safonau yn ein hysgolion ac i rymuso awdurdodau lleol i hyrwyddo diogelwch, dysgu, a lles myfyrwyr," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.