Disgwyl cyhoeddi canlyniadau profion addysg dylanwadol PISA

dosbarth (Llyw Cym)

Bydd canlyniadau profion addysg dylanwadol PISA yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach ddydd Mawrth.

Arolwg PISA yw'r arolwg rhyngwladol mwyaf yn y byd o ddisgyblion 15 oed, sy'n asesu i ba raddau y maen nhw wedi dysgu gwybodaeth a sgiliau allweddol er mwyn cymryd rhan lawn mewn bywyd cymdeithasol ac economaidd. 

Meysydd craidd yr arolwg yw mathemateg, darllen a gwyddoniaeth.

Dair blynedd yn ôl, pan gafodd y canlyniadau eu cyhoeddi ddiwethaf, roedd canlyniadau Cymru mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth yn is nag ar unrhyw adeg ers i Gymru ymuno â'r profion yn 2006.

Roedd canlyniadau Cymru yn 2023 yn is na Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar gyfer mathemateg, darllen a gwyddoniaeth.

Fe sgoriodd Cymru 466 mewn darllen a mathemateg a 473 mewn gwyddoniaeth yn 2023 o’i gymharu â 396, 492 a 503 yn Lloegr a oedd ar frig y tabl yn y DU.

Roedd canlyniadau Cymru hefyd yn is na’r cyfartaledd rhyngwladol sef 476 mewn darllen, 472 mewn mathemateg a 385 mewn gwyddoniaeth.

Yn 2019 roedd Cymru wedi sgorio 483 mewn darllen, 487 mewn mathemateg a 488 mewn gwyddoniaeth.

Bydd y canlyniadau diweddaraf yn cael eu cyhoeddi am 08:30 ddydd Mawrth.

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.