Disgwyl cyhoeddi canfyddiadau ymchwiliad cyhoeddus i droseddau Lucy Letby
Fe fydd canfyddiadau ymchwiliad cyhoeddus i sut y llwyddodd Lucy Letby i ladd a niweidio babis dro ar ôl tro mewn ysbyty yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth.
Cafodd Ymchwiliad Thirlwall ei sefydlu yn 2023 ar ôl i’r gyn-nyrs gael ei dyfarnu’n euog o lofruddio babis a cheisio eu llofruddio yn Ysbyty Iarlles Caer.
Clywodd un o farnwyr uchaf y wlad, yr Arglwyddes Ustus Thirlwall, dystiolaeth gan nifer o dystion yn Neuadd y Ddinas Lerpwl rhwng mis Medi 2024 a mis Chwefror 2025.
Roedd y rhain yn cynnwys rhieni dioddefwyr Letby.
Prif amcanion yr ymchwiliad oedd ceisio cael atebion i deuluoedd y dioddefwyr a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu.
Daw hyn tua 25 mlynedd ar ôl i nyrs arall, Beverley Allitt, gyflawni troseddau tebyg ar ward blant yn Grantham, Swydd Lincoln.
Nododd yr Arglwyddes Ustus Thirlwall fod ymchwiliad hefyd wedi cael ei gynnal i’r digwyddiadau’n ymwneud â chyfres o lofruddiaethau Allitt.
Dywedodd hi ei bod yn “gwbl annerbyniol” bod hynny wedi digwydd eto yn y GIG.
Nid yw’r ymchwiliad wedi edrych eto ar euogfarnau Letby na’i chymhellion.
Yn hytrach, roedd yn canolbwyntio ar ymddygiad y bobl oedd yn gweithio yn Ysbyty Iarlles Caer, gan gynnwys y bwrdd, rheolwyr, meddygon a nyrsys, o’r adeg y dechreuodd Letby weithio yno yn 2012.
Cafodd Letby, 36, ei symud o’r uned newyddenedigol i ddyletswyddau gweinyddol ym mis Gorffennaf 2016. Digwyddodd hynny ar ôl i ymgynghorwyr fynegi pryderon amdani wrth dîm gweithredol yr ysbyty.
Penderfynodd penaethiaid yr ysbyty gynnal nifer o adolygiadau i’r cynnydd yn nifer y marwolaethau yn 2015 a 2016.
Ni wnaeth Heddlu Swydd Gaer gael eu gwahodd i ymchwilio tan fis Mai 2017, ac fe arhosodd Letby ar y safle nes iddi gael ei harestio fwy na blwyddyn yn ddiweddarach.
Edrychodd yr ymchwiliad ar a ddylai amheuon fod wedi cael eu codi’n gynharach, ac a ddylai’r heddlu a chyrff allanol eraill fod wedi cael gwybod yn gynt.