'Dinistriol': Galw am ymyrraeth frys mewn uned iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru

Newyddion S4C
Ryan a Aly Shields
Ryan ac Aly Shields
Mae galwadau am ymyrraeth frys mewn uned iechyd meddwl yng ngogledd Cymru ar ôl pryderon am y gwasanaeth yno.
 
Mae teulu claf yn uned iechyd meddwl gymunedol Nant-y-Glyn ym Mae Colwyn yn dweud nad yw wedi gallu gwella oherwydd bod newid parhaol mewn staff wedi golygu diffyg cysondeb yn ei ofal.
 
Mae'r ganolfan wedi bod yn destun cwynion ers nifer o flynyddoedd yn ôl un gwleidydd sy'n dweud ei fod wedi codi'r mater eto gydag arolygwyr.
 
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn dweud eu bod yn cymryd pryderon gan deuluoedd o ddifrif.
 
Mae Ryan Shields wedi bod yn cael triniaeth iechyd meddwl gymunedol ers iddo fod yn 19 oed ac mae'n dweud ei fod wedi bod yn mynd i Nant-y-Glyn am y rhan fwyaf o'r amser hwnnw, ond heb weld gwelliant yn ei gyflwr.
 
“Mae'r anobaith yn wirioneddol dorcalonnus i mi. Dydy o ddim yn teimlo fel ei fod byth yn mynd i wella.” meddai Ryan, bellach yn 27 oed.
 
Effaith 'ddinistriol' 
 
Dywedodd Mr Shields mai oedi gydag apwyntiadau, cyfathrebu gwael a lefelau cadw staff isel y ganolfan sy'n golygu nad yw wedi gallu gwella.
 
“Mae yna lawer o gydlynwyr gofal wedi dod ac mae newid cadarnhaol yn eich bywyd ac rydych chi'n meddwl 'Mae hyn yn wych, mae'r person hwn yn seren, maen nhw'n anhygoel’.”
 
Image
Ryan Shields
“Ac yna dros y misoedd rydych chi'n eu gweld nhw'n edwino nes nad oes llawer ar ôl. Yna maen nhw'n mynd, ac unwaith maen nhw'n gadael, mae'r claf yn cael ei adael mewn limbo.”
 
Mae’r sefyllfa wedi cael effaith “ddinistriol” ar Ryan a’i deulu, yn ôl ei fam Aly.
 
“Mae cefnogaeth heb driniaeth yn golygu bod y claf yn y pendraw mewn cylch cyson o salwch yn hytrach nag adferiad. Dydy o ddim wedi medru cael bywyd.” meddai Ms Shields.
 
“Dydy hi ddim yn ymddangos fel bod unrhyw ddilyniant o ran staff yn aros yn eu swyddi. Dwi wedi gweld staff yn mynd o fod yn llon a brwd wrth ddechrau’r swydd, i newid yn sydyn. Mae bron fel bod cwmwl yn dod i lawr arnyn nhw.”
 
“Yn amlwg dydw i ddim yn gwybod am eu profiad yn Nant-y-Glyn, ond be’ dwi’n sylwi ydy bod y bobl yma’n newid. Dydy o ddim yn dda iddyn nhw a dydy o ddim yn dda i gleifion.”
 
Yn 2024, cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) arolygiad wedi ei gyhoeddi ymlaen llaw yn Nant-y-Glyn a chanfod bod yr uned yn cael ei “harwain yn dda”.
Image
Aly Shields
 
Roedd problemau wedi'u hadrodd o ran cysylltu â'r ganolfan dros y ffôn, ond roedd cleifion yn “fodlon” gyda'r gofal.
 
“Roedd tystiolaeth o waith tîm cydlynol a dywedodd staff, yn gyffredinol, wrthym eu bod yn hapus yn eu rolau.” dywedodd adroddiad AGIC.
 
Mae'r corff sy'n cynrychioli cleifion, Llais, yn dweud bod problemau honedig yn Nant-y-Glyn ers amser maith . 
 
“Rwy’n meddwl bod gan bob uned y materion hyn i raddau, ond mae’n tueddu i fynd a dod.” meddai Geoff Ryall-Harvey o Llais.
 
“Maen nhw'n cael staff newydd, mae'r staff hynny'n aros, maen nhw'n cael problemau dros dro gyda chymorth gweinyddol, sy'n effeithio ar ateb galwadau ffôn er enghraifft.”
 
“Ond Nant-y-Glyn ydy’r un lle mae’n gyson. Mae wedi bod yno ers amser maith ac mae’n ymddangos yn anodd iawn i’w ddatrys.”
 
Mae aelod seneddol etholaeth Clwyd, Darren Millar AS, yn dweud bod yr uned wedi bod yn destun nifer o gwynion gan ei etholwyr ers nifer o flynyddoedd a bod y bwrdd iechyd wedi “methu” mynd i’r afael â’r sefyllfa.
 
“Mae’r rhain yn honiadau difrifol ac mae angen ymchwiliad annibynnol ar frys.” meddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mr Millar. 
 
“Mi ddylai’r gwaith hwnnw gynnwys sylwadau staff presennol, staff oedd yn arfer gweithio yno, cleifion a’u teuluoedd.”
 
“Dwi wedi anfon y mater at Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru achos mae angen i hyn gael ei sortio.”
 
Mae Aly Shields yn dweud iddi ofyn am ymyrraeth gan uwch swyddogion y bwrdd iechyd yn achos ei mab ac mewn ymateb i ymholiad gan Newyddion S4C, mae'r bwrdd iechyd wedi cynnig cyfarfod â Mr Shields a'i deulu.
 
Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddor Iechyd BIPBC: “Rydym yn cymryd y materion a godwyd gan gleifion a’u teuluoedd o ddifrif.”
 
“Fel Bwrdd Iechyd, ein prif flaenoriaeth yw darparu’r gofal cywir ar yr amser cywir ac rydym yn llwyr ddeall gwerth parhad gofal, i gleifion sy’n defnyddio ein gwasanaethau iechyd meddwl.”
 
“Mae’r Bwrdd Iechyd yn parhau i fod yn ymrwymedig i feithrin diwylliant lle mae staff yn teimlo y gallant godi pryderon yn ddiogel.”
 
Image
Canolfan Nant-y-glyn
“Rydym yn annog ein cydweithwyr i godi llais ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod unrhyw bryderon a godir yn cael eu hystyried yn briodol, yn wrthrychol ac yn gymesur.”
 
Dywedodd AGIC eu bod yn ymwybodol o bryderon ynghylch Nant-y-Glyn ond nad oeddent am wneud sylw ar achosion unigol.
 
“Rydym yn cymryd unrhyw bryderon am ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd o ddifrif.” meddai'r arolygiaeth.
 
“Byddwn yn parhau i fonitro’r gwasanaeth trwy ein gweithgareddau sicrwydd a byddwn yn cymryd unrhyw gamau priodol sydd eu hangen i helpu i sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal diogel ac effeithiol.”
 
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru “ymyrraeth dan gyfarwyddyd gweinidogol” yn y bwrdd iechyd.
 
Mewn ymateb i bryderon Mr Shields dywedodd llefarydd eu bod yn disgwyl i'r bwrdd iechyd weithio gyda chleifion a'u teuluoedd i ddeall eu hanghenion a mynd i'r afael ag unrhyw bryderon.


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.