'Dim dadleuon o sylwedd' yn erbyn datganoli cyfiawnder i Gymru
'Dim dadleuon o sylwedd' yn erbyn datganoli cyfiawnder i Gymru
Mae cyn-Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr yn dweud “nad oes dadleuon o sylwedd” yn erbyn datganoli’r pwerau dros blismona a chyfiawnder sydd eisoes gan yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Yn ôl Arglwydd Thomas o Gwmgïedd yn Ystradgynlais, a gadeiriodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru rhwng 2017 a 2019, mae’n ymddangos mai “amharodrwydd i weld rôl ASau yn Llundain yn cael eu lleihau” yw’r rhwystr i ddatganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder i Gymru.
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Kinnock, wedi dweud ei fod yn pryderu y gallai datganoli plismona “beryglu” cydweithredu ar droseddau difrifol, fel Llinellau Sirol, neu ‘County Lines’.
Ond wrth siarad â rhaglen Y Byd yn ei Le ar S4C, dywedodd yr Arglwydd Thomas fod honno’n “ddadl heb wir sylwedd”, a bod “system ar wahan ddim yn amharu ar gydweithredu” yn ei brofiad ef.
Mae Prif Weinidog y DU, Andy Burnham, wedi dweud ei fod yn “agored” i’r syniad o roi rheolaeth dros blismona i Lywodraeth Cymru.
Ond mae’r Ysgrifennydd Gwladol, Stephen Kinnock, wedi nodi mai’r “prawf yw: a fydd yn arwain at ganlyniadau i bobl Cymru?”
Mewn ymateb i’r sylwadau hynny, dywedodd yr Arglwydd Thomas y byddai’n gwneud Cymru’n wlad “well” a “mwy diogel”.
“A fyddai’n gwneud pobl yn fwy diogel? Ac a fydd yn atal pobl rhag troi at fywyd o drosedd? O ran y ddau brawf sylfaenol hynny, nid oes amheuaeth y byddai datganoli cyfiawnder i Gymru yn gwneud Cymru’n lle gwell.”
Fe wnaeth yr Arglwydd Thomas arwain adolygiad annibynnol o faterion cyfiawnder yng Nghymru rhwng 2017 a 2019.
Roedd yr adroddiad terfynol yn argymell datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru yn llawn.
Pan ofynnwyd iddo am sylwadau Mr Kinnock ym mis Gorffennaf - sef bod angen dadl sy’n “seiliedig ar dystiolaeth” er mwyn datganoli mwy o bwerau i Gymru - cyfeiriodd yr Arglwydd Thomas at gasgliadau ei adroddiad.
“Pe bai’n darllen ein hadroddiad, byddai’n gweld bod digon o dystiolaeth; ac os nad yw’n cytuno ag ef, gall lunio dadl sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r ffaith nad yw wedi gwneud hynny yn awgrymu nad oes dadl yn erbyn hynny.”
Saith mlynedd ers cyhoeddi ei adroddiad, dim ond tri o’r 78 argymhelliad a oedd wedi’u llunio i baratoi’r ffordd ar gyfer datganoli cyfiawnder a phlismona sydd wedi’u gweithredu.
“Yr ateb rydym wedi’i gael bob amser yw nad oes tystiolaeth - sydd ddim yn wir; mae digonedd o dystiolaeth.
“Dydyn nhw heb gyflwyno unrhyw ddadl sylweddol dros pam y dylid gwadu i bobl Cymru yr hyn sydd gan bobl yr Alban, a’r hyn y mae pobl Lloegr wedi’i fwynhau.
“Gan nad ydynt yn cynnig unrhyw ddadleuon sylweddol, mae’n ymddangos i mi mai’r unig reswm posibl yw bod yna amharodrwydd mawr i weld rôl ASau yn Llundain yn cael ei lleihau mewn rhyw ffordd.”
Gwrthododd hefyd y ddadl y byddai datganoli yn creu problemau o ran cydweithio ar droseddau difrifol, fel y rhai sy’n ymwneud â Llinellau Sirol.
“Mae hon yn ddadl sydd heb unrhyw sylwedd go iawn. Mae gennyf brofiad helaeth o gyfiawnder troseddol ledled Ewrop, yn ogystal â chyfiawnder troseddol rhwng yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Nid yw cael systemau ar wahân yn rhwystro cydweithio mewn unrhyw ffordd.”
Yn ei maniffesto ar gyfer 2024, ymrwymodd y Blaid Lafur yn y DU i “ystyried” datganoli cyfiawnder ieuenctid, ac i “archwilio” y posibilrwydd o ddatganoli gwasanaethau prawf.
'Trosglwyddo polisi'
Ond yn ôl yr Arglwydd Thomas, datganoli plismona ddylai’r flaenoriaeth fod.
“Y man pwysig iawn i ddechrau yw gyda’r heddlu," meddai.
“Mae’r heddlu’n gweithredu ym mhob agwedd ar y ffordd rydym yn byw… gan mai nhw yw’r rhan o’r system sydd agosaf at y bobl, mae’n synhwyrol delio â hynny yn gyntaf.
"Mae’n haws gwneud hynny oherwydd bod rhaid i’r heddlu weithredu’n annibynnol ar reolaeth y llywodraeth, ond gellir trosglwyddo’r polisi sydd ganddynt yn hawdd fel cam cyntaf.”
Mae Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Andy Burnham yn galw am “ddêl newydd” i Gymru, a fyddai’n cynnwys datganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog gyfarfod ag Andy Burnham, ynghyd â phrif weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon, ddiwedd mis Hydref.
Mewn ymateb i sylwadau’r Arglwydd Thomas, dywedodd Swyddfa Cymru: "Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i adeiladu Cymru gryfach a thecach o fewn y Deyrnas Unedig sy'n gryfach ac yn decach.
"O ran datganoli pellach, os oes achos cryf y gall pwerau newydd helpu i greu cyfleoedd i bobl Cymru, byddant bob amser yn cael eu hystyried â diddordeb.
"Yr hyn sy'n cyfrif yw'r hyn sy'n gweithio – a'n ffocws ni yw gweithio gyda Llywodraeth Cymru i rymuso arweinwyr lleol a chymunedau i sicrhau twf da a swyddi ym mhob cod post yng Nghymru."
Gwyliwch Y Byd yn ei Le ar S4C, YouTube Newyddion S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.