Dim clymblaid gyda Phlaid Cymru, meddai arweinydd newydd Llafur Cymru

Ken Skates

Mae arweinydd dros dro newydd Llafur Cymru wedi dweud ei bod bellach yn amlwg nad yw clymblaid gyda Phlaid Cymru yn y Senedd yn bosib.

Dywedodd Ken Skates, a gafodd ei benodi yn arweinydd dros dro ei blaid ddydd Sadwrn, ei fod “y tu hwnt i ystyriaeth” [out of the question] y byddai yna gytundeb clymbleidio ffurfiol.

Fe awgrymodd hefyd na fyddai ei blaid yn awyddus i gydweithio â’r Ceidwadwyr a Reform er mwyn gwrthwynebu ffurfio llywodraeth Plaid Cymru.

“Mae’r syniad o bartneriaethu gyda Reform yn un hynod annymunol i bob aelod o’r grŵp,” meddai. “Ond fe wnawn ni benderfyniad terfynol yfory.”

Wrth gyfeirio at Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, dywedodd: “Rwy’n credu bod Rhun ei hun wedi dweud eu bod nhw am lywodraethu fel llywodraeth leiafrifol.

“Rwy’n awyddus i ganolbwyntio ar sicrhau y gallwn ni gael y canlyniadau gorau posib i’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu.

“Mae clymblaid, yn ôl Rhun, y tu hwnt i ystyriaeth. Rydw i’n croesawu'r cyfle i arwain tîm a fydd yn gwrthwynebu'r llywodraeth pan fo angen, ac yn ei dal i gyfrif.

“Ac fel y dywedais i, canolbwyntio ar wella bywydau pobl, nid chwarae gemau a nonsens.”

Wrth siarad ar Politics Wales ddydd Sul dywedodd Rhun ap Iorwerth nad oedd yn ystyried clymblaid ond yn hytrach cydweithio ar bob pleidlais.

"Rydw i wedi ei wneud yn glir mai dyna'r ffordd ydw i'n credu mae angen symud ymlaen," meddai.

"Y cydweithio sy'n bwysig."

'Anodd'

Dywedodd Ken Skates fod canlyniad yr etholiad, a welodd nifer ASau ei blaid yn gostwng o 29 mewn Senedd o 60 aelod i naw mewn Senedd o 96, yn “drychinebus”.

“Mae fy nghalon gyda’r holl bobl hynny a weithiodd mor galed drosom ni — ein haelodau, y bobl a bleidleisiodd drosom ni,” meddai.

“Mae'n ddrwg iawn gen i ein bod ni wedi dioddef y golled hon, ac yn arbennig mae'n ddrwg gen i dros Eluned Morgan, sydd wedi bod yn arweinydd rhyfeddol mewn cyfnodau anodd.”

Cafodd Skates ei ethol am y tro cyntaf yn 2011, ac mae wedi dal sawl swydd yn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Ysgrifennydd Trafnidiaeth ac Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith.

Bydd yn gwasanaethu fel arweinydd nes y bydd amserlen wedi’i gosod ar gyfer etholiad arweinyddiaeth llawn yn unol â rheolau Llafur Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.