Dedfrydu gyrrwr ifanc am achosi marwolaeth dyn 68 oed mewn gwrthdrawiad ym Mhowys

Lucas Jones

Mae gyrrwr ifanc wedi cael ei ddedfrydu i 10 mlynedd a naw mis mewn canolfan i droseddwyr ifanc ar ôl achosi marwolaeth dyn 68 oed mewn gwrthdrawiad ym Mhowys y llynedd. 

Cafodd Lucas Jones, 19 oed o'r Drenewydd, ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener. 

Cafodd ei wahardd rhag gyrru am 10 mlynedd a naw mis hefyd. 

Am 18:35 ar 11 Hydref y llynedd, roedd Jones yn gyrru i gyfeiriad y gogledd ar hyd yr A483 ger Cei'r Trallwng.

Fe aeth heibio dau gerbyd o'i flaen, tra'n croesi llinell wen barhaus, cyn gwrthdaro'n uniongyrchol â Mini Cooper gwyn oedd yn dod o'r cyfeiriad arall.

Bu farw gyrrwr y Mini gwyn, Michael John Day o Landrinio, yn y fan a'r lle. Cafodd Jones a dau arall oedd yn teithio yn yr un car ag ef eu cludo i'r ysbyty. 

Fe gafodd Jones ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru yn beryglus, a dau gyhuddiad o achosi anaf difrifol drwy yrru yn beryglus. 

Plediodd yn euog i'r holl gyhuddiadau.

Plediodd yn euog hefyd i gyhuddiad ar wahân o yrru'n beryglus, yn ymwneud â throsedd gynharach ym mis Gorffennaf 2025.

Dywedodd PC Gary Williams o Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol Heddlu Dyfed-Powys: "Yn gyntaf, mae ein meddyliau yn parhau â theulu a ffrindiau agos Michael, a fu farw o ganlyniad i'r digwyddiad. 

"Hoffwn ddiolch iddynt am eu hamynedd a'u dealltwriaeth drwy gydol yr ymchwiliad hir hwn. Maent wedi dangos dewrder rhyfeddol mewn achos sydd wedi bod yn wirioneddol drasig. 

"Arweiniodd gyrru peryglus Lucas Jones at farwolaeth dyn gwbl ddiniwed. Ni ddangosodd unrhyw ystyriaeth o gwbl dros ddiogelwch teithwyr eraill y ffordd, gan gynnwys y teithwyr yn ei gerbyd ei hun, ac fe arweiniodd hyn yn y pen draw at ganlyniadau trychinebus."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.