Dedfrydu 30 o bobl am eu rhan yn nherfysg Trelái

Gwrthdrawiad Trelái

Mae 30 o bobl wedi cael eu dedfrydu am eu rhan yn y terfysgoedd yng Nghaerdydd a ddechreuodd yn dilyn marwolaeth dau o bobl ifanc.

Bu farw Kyrees Sullivan, 16 oed, a Harvey Evans, 15 oed, ym mis Mai 2023 pan fu gwrthdrawiad wrth i'r ddau deithio ar feic trydan yn ardal Trelái o'r ddinas.

Dechreuodd y trais a'r anhrefn pan ledaenodd y newyddion am eu marwolaethau a'r awgrym bod yr heddlu wedi bod ar ôl y ddau cyn y digwyddiad.

Pasiodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke, Cofiadur Caerdydd, ddedfrydau i 30 o ddiffynyddion yn Llys y Goron Caerdydd ar Fehefin 17, 18 a 19.

Yn ei sylwadau dedfrydu, dywedodd y Barnwr Lloyd-Clarke: “Mae colli Kyrees a Harvey yn amlwg wedi achosi galar ofnadwy i'w teuluoedd.

“Daeth marwolaethau Kyrees a Harvey hefyd â galar i'w cymuned yn Nhrelái.

“Wrth i’r newyddion ofnadwy ddechrau lledaenu, ymgasglodd pobl ger y lleoliad.

“Yn fuan iawn dechreuodd sibrydion ledaenu am achos y ddamwain, gan gynnwys sibrydion ar y cyfryngau cymdeithasol, ac fe gafodd yr heddlu eu beio.

“Daeth mwy o bobl i ymuno â’r dorf, nid yn unig y rhai yn y cyffiniau ond hefyd o’r ardal gyfagos.

“Dechreuodd dicter a gelyniaeth tuag at yr heddlu gynyddu.”

Clywodd y llys fod y dorf wedi dod yn ymosodol yn agored tuag at yr heddlu wrth i swyddogion geisio ehangu’r cordon o amgylch lleoliad y ddamwain.

Dywedodd y Barnwr Lloyd-Clarke: “Cafodd y swyddogion heddlu yn y lleoliad eu cam-drin a’u bygwth â thrais.

“Wrth i’r heddlu symud y dorf ymhellach yn ôl, dechreuodd rhai pobl yn y dorf daflu taflegrau at yr heddlu - taflwyd poteli, briciau, cerrig, darnau o fwrdd plastr, ac eitemau eraill at y swyddogion.

“Parhaodd y taflu taflegrau am oriau.”

Fe ddioddefodd cyfanswm o 31 o swyddogion yr heddlu ac un aelod o’r cyhoedd anafiadau yn ystod y terfysg, gan amrywio o gleisio i anaf cyfergyd, ac achoswyd “difrod sylweddol” i’r gymuned.

Dyma oedd canlyniad y dedfrydu ar ddiwedd yr achos:

Ashdon O’Dare, 28 oed, o Drelái, Caerdydd - chwe blynedd a chwe mis o garchar.

Lee Robinson, 39 oed, o Gaerau, Caerdydd - chwe blynedd a chwe mis o garchar.

Luke Williams, 32 oed, o Gaerau, Caerdydd - chwe blynedd o garchar.

Michaela Gonzales, 37 ied, o Drelái, Caerdydd - pum mlynedd a dau fis o garchar.

Jordan Bratcher, 27 oed, o Lanisien, Caerdydd - pum mlynedd a chwe mis o garchar.

Tyler Stapleton, 26 oed, o Drelái, Caerdydd - pedair blynedd a phedwar mis o garchar.

Zayne Farrugia, 26 oed, o Gaerau, Caerdydd - chwe blynedd o garchar.

Jordan Webster, 30 oed , o Drelái, Caerdydd - pum mlynedd a saith mis o garchar.

Jaydon Westcott, 21 oed, o Drelái, Caerdydd - pum mlynedd a dau fis o garchar.

Jumana Fouad, 19 oed, o Drelái, Caerdydd - gorchymyn cymunedol 24 mis a 15 diwrnod o weithgarwch adsefydlu.

Lianna Tucker, 20 oed, o Drelái, Caerdydd - gorchymyn cymunedol 24 mis a 25 diwrnod o weithgarwch adsefydlu.

Connor O’Sullivan, 27 oed, o Gaerau, Caerdydd - pum mlynedd o garchar.

Callum O’Sullivan, 25 oed, o Drelái, Caerdydd - tair blynedd a naw mis o garchar.

Lee-Martin McQuade, 30 oed, o Drelái, Caerdydd - chwe blynedd a phedwar mis o garchar.

Gemma Virgin, 45 oed, o Drelái, Caerdydd - tair blynedd ac wyth mis o garchar.

Malaki McQuade, 19 oed, o Drelái, Caerdydd - chwe blynedd mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc.

Liam Black, 21 oed, o Drelái, Caerdydd - chwe blynedd a naw mis mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc.

Harvey James, 20 oed, o Fairwater, Caerdydd - gorchymyn adsefydlu 24 mis.

McKenzie Pring, 21 oed, o Gaerau, Caerdydd - pedair blynedd mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc.

Jayden Baston, 21 oed, o Gaerau, Caerdydd - pedair blynedd a chwe mis mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc.

Kieron Beccano, 27 oed, o Drelái, Caerdydd - pum mlynedd a chwe mis o garchar.

James Chappell, 31 oed, o'r Barri - pedair blynedd a phedair mis o garchar.

Jasmine Smith, 21 oed, o'r Mynydd Bychan, Caerdydd - gorchymyn cymunedol 24 mis.

Liam Williams, 21 oed, o Dredelerch, Caerdydd - pedair blynedd a thri mis o garchar.

Jamie Stephen Bateman, 28 oed, o Gaerau, Caerdydd - pum mlynedd a naw mis o garchar.

Jamie Jones, 25 oed, Llanrhymni, Caerdydd - pum mlynedd a dau fis o garchar.

Cameron Francis Carter, 20 oed, o Drelái, Caerdydd - pum mlynedd a thri mis o garchar.

Ryan Knight, 21 oed, o Splott, Caerdydd - pum mlynedd a phedwar mis o garchar.

Kyle Telemaque, 20 oed, o Drelái, Caerdydd - pum mlynedd mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc.

Matthew Evans, 22 oed, o Drelái, Caerdydd - chwe blynedd a phedwar mis o garchar.

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.