David Sullivan wedi ei wahardd 'rhag cysylltu â thimau ieuenctid West Ham ers 2023'

David Sullivan

Mae cyd-berchennog West Ham, David Sullivan, wedi ei wahardd rhag cael unrhyw gysylltiad gyda chlwb merched a'r timau ieuenctid yn ystod y tair blynedd ddiwethaf yn ôl adroddiadau. 

Cafodd y penderfyniad ei wneud o achos pryderon diogelwch.

Fe ddechreuodd yr FA ymchwiliad diogelu yn 2023 ar ôl derbyn honiadau am y ffordd yr oedd Sullivan yn ymddwyn.

Fe benderfynodd grŵp diogelwch y clwb, yr FA a'r awdurdod lleol wedi hynny i atal y dyn busnes 77 oed rhag cael mynediad at dimau ieuenctid a thîm y merched West Ham.

Mae Sullivan yn dod yn wreiddiol o Gaerdydd ac fe gafodd ei fagu ym Mhenarth cyn i'w deulu symud i Loegr.

Roedd hefyd wedi ei wahardd rhag mynd i weld gemau ac mae'r gwaharddiad hwnnw dal mewn grym heddiw.

Mewn datganiad ddydd Mercher, fe ddywedodd Sullivan nad oedd erioed wedi cwrdd ag unrhyw un o chwaraewyr y timau menywod neu'r academi '1-2-1' yn ystod ei gyfnod yn West Ham . 

Mae wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn gwadu cyhuddiadau o gamymddwyn.

Mewn datganiad, fe ddywedodd y Gymdeithas Bêl-droed nad oedd modd iddyn nhw wneud sylw ar achosion unigol o ddiogelu, ond eu bod yn cymryd honiadau "o ddifrif" ac yn gweithio gyda'r heddlu. 

Cyhuddiadau 

Mae sawl menyw wedi cyhuddo’r biliwnydd o gamddefnyddio ei rym er mwyn eu gorfodi i gael rhyw, yn ôl ymchwiliad ar y cyd gan BBC Panorama a The Times.

Mae’r cyhuddiadau, a gafodd eu gwneud gan saith menyw, yn dyddio yn ôl dros sawl degawd, gan gychwyn yn yr 1980au.

Roedd pob un o’r menywod yn eu harddegau hwyr neu ugeiniau cynnar ar y pryd ac yn chwilio am waith ar bapurau Daily Sport a Sunday Sport, oedd dan berchnogaeth Sullivan.

Maent yn cyhuddo Mr Sullivan o’u hecsbloetio, drwy gynnig gwaith iddyn nhw am gyflawni gweithredoedd rhywiol.

Mae Heddlu'r Met wedi dweud eu bod yn cymryd honiadau tebyg yn "ddifrifol iawn" ac y bydd "unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth fydd yn cael ei ddarparu i'r heddlu yn cael ei asesu a'r ymholiadau perthnasol yn digwydd".

Yn ôl Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth San Steffan mae straeon y menywod yn "ddirdynnol".

"Os mai'r achos yw bod ymchwiliad wedi dod i'r casgliad bod yna honiadau digon difrifol i warantu gwaharddiad rhag cael unrhyw gyswllt gyda'r timau ieuenctid a menywod yna mae'n rhaid i'r FA esbonio'r penderfyniad yma a pham na chafodd camau eraill eu cymryd," meddai Lisa Nandy.

"Dwi'n disgwyl esboniad llawn ac ar frys gan yr FA a West Ham ynglŷn â'r ffordd y cafodd yr honiadau mae eu delio â nhw." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.