Dathlu 140 o flynyddoedd ers sefydlu Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yn Rhydychen
Dathlu 140 o flynyddoedd ers sefydlu Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yn Rhydychen
Mi fydd digwyddiad yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen dros y penwythnos i ddathlu pen-blwydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yn 140.
Cafodd Y Gymdeithas, sef cymdeithas Gymraeg ym Mhrifysgol Rhydychen, ei sefydlu ym 1886.
Ymhlith y sylfaenwyr mae O.M.Edwards a John Morris Jones ac mi ddechreuodd y gymdeithas groesawu merched fel aelodau ym 1966.
Mae gan y gymdeithas sawl cyn-aelod adnabyddus; yn eu plith sylfaenydd yr Urdd, Ifan ab Owen Edwards, y gwleidydd Gwynfor Evans, cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan; a’n fwy diweddar, yr Aelod Seneddol Ben Lake, yr Aelod o Senedd Cymru Delyth Jewell, y newyddiadurwr Guto Harri a’r bardd Aneirin Karadog.
140 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r gymdeithas yn parhau i ddenu Cymry dros y ffin hyd heddiw.
Mae’r ffaith bod Cymdeithas Gymraeg yn bodoli o fewn y Brifysgol yn un o’r rhesymau a ddenodd David Ingham a Maia Williams, sy’n gyd-gaplaniad ar y gymdeithas, i astudio yno.
“Rydw i’n siarad Saesneg gartref, yn yr ysgol ddysgais i’r Gymraeg. Roeddwn yn gwybod wrth ddod i Loegr i astudio y byddai llai o gyfle i siarad a defnyddio’r Gymraeg” meddai David.
Cymraeg yw prif iaith y gymdeithas ac mae hyn yn ôl yr aelodau yn rhan annatod ohoni.
Ychwanegodd Maia: “Dwi wedi byw yn Lloegr ers ryw wyth mlynedd bellach, felly mae’n bwysig ofnadwy i fi gael rhywle lle dwi’n gallu siarad Cymraeg hefo pobl sy’n rhan mor bwysig o’n hunaniaeth i”.
Cafodd y gymdeithas ei henwi ar ôl y bardd Dafydd ap Gwilym a chaiff ei hadnabod gan amlaf fel ‘Cymdeithas Dafydd’, “Y Dafydd” neu “Y Gymdeithas”, gyda chyfeiriadau ati fel “Oxford Univeristy Welsh Society” yn aml yn cael ei ddiystyru gan aelodau.
Mae’r gymdeithas yn cynnal digwyddiadau wythnosol mewn tafarndai, eisteddfod a gwasanaeth carolau blynyddol.
I Lleucu Branson-Wiliam, swyddog cymdeithasol y gymdeithas, mae’r elfen gymdeithasol yn bwysig.
“Dwi wir yn mwynhau elfen gymdeithasol y gymuned. Bod ni’n gallu cyfarfod yn anffurfiol mewn tafarn neu mewn parc a siarad, yfed, ymlacio gyda’n gilydd” meddai.
Gyda bwriad chwareus ac eironig yn wreiddiol i rai o ddefodau ffurfiol y gymdeithas, er nad ydynt bellach yn orfodol, mae rhai o’r traddodiadau wedi parhau hyd heddiw, gan gynnwys darlleniad o waith Dafydd ap Gwilym i agor cyfarfodydd neu ddigwyddiadau. Hefyd, defnyddir y teitl ‘Caplan’ ar gyfer rôl Llywydd y Gymdeithas.
Yn ôl David mae rhai o’r traddodiadau hynny’n parhau hyd heddiw.
“Yn yr hen ddyddiau, fe ddarllenon nhw’r gerdd ac yna ei thrafod yn y cyfarfod. Erbyn hyn, rydyn ni’n darllen y gerdd ond ddim yn gwneud cweit gymaint o drafod” meddai David.
Yn y 1990au, cyhoeddwyd sawl rhifyn o gylchgrawn y gymdeithas, Yr Aradr oedd yn cynnwys erthyglau gwreiddiol gan aelodau’r gymdeithas ynghyd â rhai gwesteion. Mae’r traddodiad yma hefyd wedi parhau a’r gymdeithas bellach yn cyhoeddi cylchgrawn blynyddol, ‘Y Drych’.
Dyma Gymdeithas Gymraeg hynaf Prydain y tu allan i Gymru yn ogystal â’r gymdeithas hynaf yn Rhydychen, ar wahân i'r Oxford Union.
Mae David yn gobeithio y bydd yn parhau i ffynnu am flynyddoedd eto.
“Fi’n holl obeithio y bydd yr hen draddodiadau sydd gyda ni yn parhau yn y cant a deugain o flynyddoedd sydd i ddod ac y bydd y gymdeithas yn aros yn driw i’r cyfansoddiad ac i’n holl hanes ni” meddai.
I nodi’r achlysur mi fydd dathliad yn cael ei gynnal yng Ngholeg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen ddydd Sadwrn fydd yn croesawu cyn aelodau, myfyrwyr presennol a Chymry Rhydychen i ddathlu’r garreg filltir.