Damwain ddifrifol yn gorfodi dynion ifanc o'r gogledd i ohirio eu taith seiclo elusennol i Wlad Thai
Mae tri dyn ifanc o ardal Wrecsam wedi gohirio eu taith seiclo elusennol o Langollen i Wlad Thai ar ôl i un ohonyn nhw ddioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad yn Tsieina bythefnos yn ôl.
Ar ôl cychwyn eu taith ym mis Awst y llynedd, mae Dyfan Hughes, James Thomas a Louis Dennis wedi teithio drwy nifer o wledydd Ewrop ac Asia, gan gynnwys Uzbekistan, Tajikistan a Kyrgyzstan, cyn cyrraedd Tsieina ddechrau Mehefin.
Mae’r tri yn codi arian er cof am dad eu ffrind Harrison, a fu farw o broblemau gyda’i galon.
Mae’r daith wedi cael ei chofnodi mewn fideos ar gyfrif WestHeads ar Instagram a TikTok.
Ond dywedodd y tri bod y daith wedi ei gohirio am y tro wrth i Dyfan barhau yn yr ysbyty yn Tsieina, gyda’i rieni wedi teithio yno i fod gydag ef.
“Bydd yn rhaid i ni ohirio'r daith am y tro, nes bod Dyf yn gallu beicio eto," medden nhw.
“Yn amlwg, doedden ni erioed eisiau i hyn ddigwydd.
“Peidiwch â meddwl am hyn fel y daith yn cael ei thorri’n fyr - dim ond stori arall fydd ganddon ni i’w hadrodd wrth y wyrion.
“Byddwn ni’n ôl ar y beiciau ac yn gorffen ein taith yn Chiang Mai, Gwlad Thai, cyn gynted ag y bydd hi’n ddiogel gwneud hynny.”
Cafodd y newyddion am y ddamwain ei rannu ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol WestHeads bythefnos yn ôl, gyda ffrindiau Dyfan yn datgelu'n ddiweddarach ei fod wedi bod mewn gwrthdrawiad â lori wrth reidio ei feic.
Mewn diweddariad ddydd Sul, dywedodd y criw mai prif bryderon meddygol Dyfan ar hyn o bryd yw ei droed chwith.
“Mae ganddo nifer o doriadau ac esgyrn wedi torri, yn ogystal â niwed difrifol i’r meinwe a’r tendonau,” medden nhw.
Dywedon nhw y bydd Dyfan yn wynebu nifer o lawdriniaethau er mwyn helpu’r droed i wella.
Ond ni fydd yn gallu cwblhau ei gwrs llawn o driniaeth yn Tsieina, gan barhau ei driniaeth "mewn ysbyty yn nes at adref".
Mae'r tri hefyd wedi diolch am yr "holl sylwadau a negeseuon hyfryd a chadarnhaol".
"Mae’n golygu cymaint i ni, ac rydyn ni’n gwerthfawrogi pob un ohonyn nhw," medden nhw.