Dafydd Iwan: ‘Ro'n i ar ben un o'r tyrau yn Efrog Newydd ddau ddiwrnod cyn 9/11’

Dafydd Iwan: ‘Ro'n i ar ben un o'r tyrau yn Efrog Newydd ddau ddiwrnod cyn 9/11’

Mae’r canwr a’r cyn-wleidydd Dafydd Iwan wedi datgelu mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C iddo fod ar ben un o dyrau Canolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd ddau ddiwrnod cyn ymosodiadau 9/11.

Cafodd bron i 3,000 o bobl - 67 ohonynt yn Brydeinwyr - eu lladd yn dilyn ymosodiadau'r grŵp terfysgol al-Qaeda ar dyrau Canolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd a'r Pentagon ger Washington ar ddydd Mawrth, 11 Medi 2001.

Wrth edrych yn ôl, dywedodd Dafydd Iwan ei fod wedi teimlo’n “ffodus iawn” wrth sylweddoli pa mor agos yr oedd wedi bod at y digwyddiadau trychinebus chwarter canrif yn ôl.

Roedd y canwr gwerin poblogaidd yn Efrog Newydd ym mis Medi 2001 er mwyn ffilmio rhaglen i S4C am Gymry oedd wedi gwneud cyfraniad i fywyd America.

Yn dilyn ymweliadau â Los Angeles a San Francisco, roedd wedi bod ar ben un o dyrau Canolfan Masnach y Byd ar 7 ac 8 Medi, cyn hedfan adref ar 9 Medi.

“Pe bai amserlen y ffilmio wedi bod diwrnod neu ddau yn wahanol, mi fysa ni o bosib ar ben y tŵr pan naethon nhw daro,” meddai.

Image
Tyrau Canolfan Masnach y Byd
Tyrau Canolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd cyn yr ymosodiadau yn 2001 (Llun: Library of Congress Catalog)

Roedd y tîm wedi bwriadu defnyddio’r tyrau fel lleoliad ar gyfer rhan olaf y rhaglen. Ar 7 Medi, aeth Dafydd Iwan a’r criw camera i ben un o’r tyrau i ffilmio.

Ond roedd problemau gyda’r offer yn golygu nad oedd modd recordio’r cyfweliad yn iawn, felly penderfynwyd ceisio eto’r diwrnod canlynol.

Er bod angen trefnu mynediad wythnosau ymlaen llaw fel arfer, dywedodd fod staff y ganolfan wedi gwneud ymdrech arbennig i’w helpu i ddychwelyd.

“Mi wnaethon nhw fynd allan o’u ffordd i sicrhau bod ni’n cael dod yn ôl i ffilmio yr ail ddiwrnod,” meddai.

Ar 8 Medi, llwyddodd y tîm i recordio’r cyfweliadau a chafodd Dafydd Iwan gyfle i weld Efrog Newydd o ben y tŵr.

“Mi roeddan ni’n gallu tynnu lluniau o’r top yn dda ac yn gweld y rhan fwyaf o Efrog Newydd - lle rhyfeddol a dweud y gwir,” meddai.

Image
Dafydd Iwan yn perfformio yn yr UDA
Dafydd Iwan yn perfformio yn yr Unol Daleithiau yn 2001 (Llun: Yma Mae Nghân / S4C)

Y diwrnod canlynol, ar 9 Medi, fe ddychwelodd adref i Gymru.

Pan aeth i’w waith yn Stiwdio Sain ar 11 Medi, roedd y teledu ymlaen.

“Y peth cyntaf y glywais i ar ôl mynd i fewn i’r gwaith oedd, ‘Argol, ti ‘di gweld beth sy’n digwydd yn Efrog Newydd?’” meddai.

“Ac felly dyma fi'n edrych ar y llun a'r peth cyntaf welais i oedd yr awyren 'ma yn mynd i mewn i'r tŵr lle o'n i wedi bod dau ddiwrnod ynghynt.”

‘Meddwl am yr holl fywydau’

Nid ei ddiogelwch ei hun oedd yr unig beth oedd ar ei feddwl y diwrnod hwnnw.

“Y peth cyntaf oeddwn i'n meddwl amdano fo oedd bod y bobl oedd wedi helpu ni, a'r bobl oedd wedi cyfarfod ni ar dop un o’r tyrau, wedi marw yn y drychineb am nad oedd ganddyn nhw unrhyw ffordd i ddianc,” meddai.

“Yr ail beth, wrth gwrs, meddwl gallwn ni fod yno ein hunain, ond dyna fo, drwy ffawd, roeddan ni wedi gallu dod adra.”

Roedd tyrau Canolfan Masnach y Byd - a oedd yn cynnwys 110 o loriau yr un - wedi bod yn rhan bwysig o’r syniad gwreiddiol ar gyfer y rhaglen.

“Roeddan ni wedi gweu caneuon i mewn i'r rhaglen, ac roedd un o'r caneuon yn sôn am mor fawr ydi popeth yn America,” meddai.

“Dyna pam roeddan ni eisiau gorffen y rhaglen wrth ddau o'r adeiladau mwyaf yn Efrog Newydd - symbol o fawredd America fel petai.

“Felly, o’n i yno jyst yn synnu ac yn rhyfeddu at faint yr adeiladau a meddwl am yr holl bobl oedd yn gweithio yna.”

Image
Y Gwasanaeth Tan yn ymateb i ymosodiadau 11 Medi 2001
Diffoddwyr tân Efrog Newydd yn ymateb i ymosodiadau 11 Medi 2001 (Llun: Library of Congress Catalog)

Roedd y tîm wedi ffilmio deunydd ar ben ac wrth droed y tyrau ar gyfer y rhaglen, ond ni chafodd ei ddarlledu.

Dywedodd Dafydd Iwan nad oedd y cynhyrchydd, Hefin Elis, yn gyfforddus â defnyddio’r deunydd ar ôl yr ymosodiadau.

“Doedden ni ddim eisiau cael ein gweld yn manteisio ar hynny er mwyn trio creu rhyw raglen oedd yn apelio am y rhesymau anghywir,” meddai.

‘Terfysgaeth yn agosach at bawb’

Mae Dafydd Iwan yn credu bod 11 Medi 2001 wedi newid y byd yn sylweddol.

“Ar ôl y digwyddiad yna mae’r byd wedi gorfod newid, ac mae terfysgaeth wedi dod yn rhywbeth mwy peryglus ac agosach at bawb,” meddai.

Yn ei farn ef, mae’r ymateb i’r ymosodiadau wedi arwain at fwy o elyniaeth a diffyg ymddiriedaeth rhwng gwledydd, gan wneud y byd yn fwy pegynol.

“Yr unig obaith cyn belled â dwi yn y cwestiwn ydy bod ni’n canfod y tir cyffredin sydd rhyngon ni, ac yn gweld bod yna fodd i bobl gydweithio efo’i gilydd hyd yn oed os ydyn ni’n anghytuno ar bethau pwysig,” meddai.

Mae hefyd yn cwestiynu’r syniad mai mwy o arfau yw’r ffordd orau o sicrhau heddwch.

“Dydw i yn bersonol ddim yn credu mai dyna yw’r ffordd i warchod heddwch, cael bomiau mwy na’r gelyn,” ychwanegodd.

Image
Golygfa o’r ffynnon sydd wedi’i lleoli ar safle Tŵr Gogledd Canolfan Masnach y Byd.
Golygfa o’r ffynnon sydd bellach wedi’i lleoli ar gyn safle Tŵr Gogledd Canolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd

Mae Dafydd Iwan wedi ymweld â’r Unol Daleithiau sawl gwaith cyn 2001, fel arfer i ganu neu i ffilmio, ond nid yw wedi dychwelyd ers yr ymosodiadau.

Dywedodd fod ei brofiad o fod mor agos at 9/11 yn un o’r rhesymau, yn ogystal â gwleidyddiaeth America, nad oes ganddo awydd i ruthro’n ôl.

Ond wrth edrych yn ôl ar 25 mlynedd ers yr ymosodiadau, y bobl ddiniwed a gafodd eu dal yng nghanol y digwyddiadau sy’n parhau i fod ar flaen ei feddwl.

Ac wrth gyfeirio at yr hyn sy’n digwydd yn Wcráin, Gaza a Sudan, dywedodd mai pobl ddiniwed sy’n parhau i ddioddef pan nad yw arweinwyr y byd yn cytuno.

“'Dan ni’n gobeithio, wrth edrych ymlaen, y gallwn ni edrych ymlaen ar fyd lle fydd pobl wedi dod yn nes at ei gilydd yn hytrach na byw mewn ofn y gall terfysgaeth o’r math yma ddod i ben eto,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.