Cyngor Gwynedd yn cefnogi galwad am enwau Cymraeg yn unig ar fapiau

OS Mapiau o Gymru

Mae Cyngor Gwynedd wedi cefnogi cynnig sy’n galw ar yr Arolwg Ordnans i ddefnyddio enwau tirwedd Cymraeg yn unig ar fapiau yng Nghymru.

Cafodd y rhybudd o gynnig ei gyflwyno gan y Cynghorydd Einir Wiliams, sy’n cynrychioli ward Gerlan, mewn cyfarfod llawn o’r cyngor ddydd Iau.

Cafodd y cynnig ei gefnogi gan 45 o gynghorwyr, gyda neb yn pleidleisio yn ei erbyn a neb yn ymatal.

Mae’r cynnig yn galw ar y cyngor i ysgrifennu at yr Arolwg Ordnans i ofyn iddyn nhw fabwysiadu egwyddor o ddefnyddio enwau tirwedd Cymraeg yn unig ar fapiau yng Nghymru.

Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd yn ffurfiol er mwyn sicrhau bod enwau Cymraeg hanesyddol yn cael eu "parchu a’u diogelu".

Wrth gyflwyno ei rhybudd o gynnig, dywedodd y Cynghorydd Wiliams fod ganddi bryder "dwfn ac angerddol" am golli enwau Cymraeg ar fapiau.

Dywedodd fod rhai enwau Cymraeg hanesyddol yn cael eu disodli gan enwau Saesneg, gan "danseilio’r Gymraeg, ein hanes a’n hunaniaeth genedlaethol".

Fe aeth ymlaen i ddweud fod enwau tirwedd Cymraeg yn "rhan annatod o dreftadaeth a hunaniaeth Cymru".

"Mae enwau lleoedd Cymraeg yn rhan o'n DNA diwylliannol, maent yn adrodd hanes y tir, y bobl, y chwedlau, y gwaith, y bywyd," meddai.

"Nid oes gan neb yr hawl i'w dileu nag eu disodli."

Ymhlith y rhai oedd yn cefnogi'r cynnig oedd y Cynghorydd Rhys Tudur, sy’n cynrychioli ward Llanystumdwy.

Ond dywedodd y dylai'r cyngor sicrhau nad yw'n rhagrithiol drwy ddefnyddio enwau Saesneg yn eu gohebiaeth gyda'r cyhoedd.

"Os 'da ni'n mynd ymlaen efo'r cynnig yma, ddylsa ni beidio bod yn ragrithwyr ein hunain ac yn defnyddio enwau Saesneg ein hunain fel 'da ni'n gohebu.

"Mater bach ydi morol bod yr enwau a'r cyfeiriadau Cymraeg yn mynd allan yn ein gohebiaeth."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Arolwg Ordnans nad ydyn nhw’n gallu newid enwau ar eu liwt eu hunain, ac mai eu nod yw cofnodi enwau lleoedd sydd mewn defnydd cyffredin.

"Ni all yr Arolwg Ordnance benderfynu ar ei ben ei hun i newid enw," meddai’r llefarydd.

Fe ddywedon nhw hefyd eu bod yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Comisiynydd y Gymraeg a pharciau cenedlaethol Cymru i gefnogi’r Gymraeg ar eu mapiau.

Yn dilyn y bleidlais, mae disgwyl i Gyngor Gwynedd ysgrifennu at yr Arolwg Ordnance a Llywodraeth Cymru i nodi safbwynt y cyngor.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.