Cyn-arweinydd y DUP Syr Jeffrey Donaldson yn euog o droseddau rhyw hanesyddol

Jeffrey Donaldson

Mae cyn-arweinydd plaid y DUP yng Ngogledd Iwerddon, Syr Jeffrey Donaldson, wedi cael ei ddyfarnu'n euog o 18 o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn dwy fenyw pan oeddent yn blant.

Daeth rheithgor yn Llys y Goron Newry yn County Down i'r casgliad brynhawn Llun ei fod yn euog o un cyhuddiad o dreisio, 13 cyhuddiad o ymosod yn anweddus, a phedwar cyhuddiad o anwedduster difrifol.

Cafwyd bod ei wraig, Eleanor Donaldson, wedi cynorthwyo ac annog y troseddau.

Roedd Donaldson, sy’n 63 oed, wedi pledio’n ddieuog i’r troseddau honedig, a oedd yn ymestyn dros gyfnod rhwng 1985 a 2008.

Fe wnaeth Achwynydd A ac Achwynydd B roi tystiolaeth yn ystod yr achos, gan honni iddynt gael eu cam-drin pan oeddent yn blant.

Fe dreuliodd Donaldson ddau ddiwrnod yn rhoi tystiolaeth yn ystod yr achos, gan wadu’r honiadau dro ar ôl tro.

Roedd Ms Donaldson, 60 oed, wedi gwadu nifer o gyhuddiadau o gynorthwyo ac annog ei gŵr.

Fe wynebodd achos prawf o’r ffeithiau ar sail ei hiechyd meddwl, a oedd yn profi’r dystiolaeth ond na allai arwain at euogfarn droseddol.

Dywedodd y barnwr y byddai Donaldson yn wynebu "dedfryd hir o garchar", ac yn cael ei roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw.

Ni ddangosodd unrhyw emosiwn wrth iddo gael ei arwain allan o'r llys a'i gadw yn y ddalfa.

Bydd gwrandawiad dedfrydu yn cael ei gynnal ddiweddarach yn y mis.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.