Cyn-arweinydd y BNP Nick Griffin yn gwadu ysgogi casineb hiliol
Mae cyn arweinydd plaid eithafol asgell dde y BNP wedi gwadu honiad o gyhoeddi cartŵn oedd yn ysgogi casineb hiliol.
Mae Nick Griffin, sy’n byw yn Y Trallwng, wedi ei gyhuddo o rannu cartŵn ar X yn 2021 a oedd yn “fygythiol, yn ymosodol a’n sarhaus”.
Yn Llys y Goron Southwark ddydd Mercher, plediodd Griffin yn ddieuog i ddau gyhuddiad – arddangos deunydd sy’n debygol o ysgogi casineb hiliol a chyhoeddi neu ddosbarthu deunydd sy’n debygol o ysgogi casineb hiliol.
Mae'r cyn-Aelod o Senedd Ewrop yn cael ei erlyn yn breifat gan yr Ymgyrch yn Erbyn Gwrth-semitiaeth (CAA).
Roedd y cartŵn y honnir iddo ei rannu yn dangos pry cop enfawr gyda Seren Dafydd ar ei ben, meddai'r CAA yn flaenorol.
Cafodd y gwrandawiad ddydd Mercher ei ohirio gan Mr Justice Swift ac fe fydd achos llys yn cael ei gynnal ar 11 Mai y flwyddyn nesaf..
Llun: Llun archif o Nick Griffin gan PA / Ian Nicholson.