Cymry Côr Ffermwyr Hawkstone yn 'diolch i bawb adre' ar ôl ennill Britain's Got Talent
Cymry Côr Ffermwyr Hawkstone yn 'diolch i bawb adre' ar ôl ennill Britain's Got Talent
Mae rhai o'r Cymry sy'n aelodau o Gôr Ffermwyr Hawkstone yn "diolch i bawb adre" ar ôl ennill Britain's Got Talent nos Sadwrn.
Y casgliad o ffermwyr oedd y côr cyntaf i ennill y gystadleuaeth.
Perfformiodd y côr gân wreiddiol eu hunain cyn sicrhau'r fuddugoliaeth a gwobr ariannol o £250,000.
Dywedodd rhai o aelodau'r côr wrth Newyddion S4C fore Sul eu bod nhw'n "diolch i bawb adre" sydd wedi bod yn gwneud y gwaith ar eu ffermydd tra eu bod nhw'n cystadlu yn Llundain.
“Dan ni’n dal yn methu coelio bod ni wedi ennill y gystadleuaeth," meddai Aled Wyn Davies
“Mae o’n teimlad anhygoel a ‘dan ni wrth ein boddau a ‘dan ni am ddiolch o galon i bawb dros Gymru i gyd sydd wedi pleidleisio i ni, a wedi rhoi gymaint o gefnogaeth i ni.”
'I'r holl ffermwyr'
Ychwanegodd Aled Griffiths bod aelodau'r côr wedi bod allan yn mwynhau'r dathliadau yn Llundain.
Inline Tweet: https://twitter.com/ITV/status/2060826400572031043?s=20
“Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth, mae’n bore ar ôl y parti felly, ‘dan ni’m cweit ar ein gorau, ‘den ni’m yn mynd i ganu i chi bore ‘ma.
“Ond mae gynnon ni dipyn o waith dal fyny efo’r gwaith adre, a diolch i bawb sydd ‘di bod yn gweithio drosto ni yn y cyfamser."
Ar ôl cyhoeddi mai'r côr oedd enillwyr cyfres Britain's Got Talent eleni, dywedodd un o'r aelodau Katryna Shell, fod y fuddugoliaeth i'r holl ffermwyr.
"Mae hwn i'r holl ffermwyr mas 'na, i unrhyw un sy'n dioddef, dyw e ddim yn bwnc tabŵ.
"Os nad ydych chi'n iawn, siaradwch am y peth, mae hwn i'r ffermwyr."
Fe wnaeth Anastasiia a'i chi Salsa gorffen yn drydydd, tra bod Celestial, criw o weithredwyr dronau wedi gorffen yn yr ail safle.

