Cymru'n 'ddigon da i gystadlu gydag Iwerddon' medd Dewi Lake
Cymru'n 'ddigon da i gystadlu gydag Iwerddon' medd Dewi Lake
Wrth i Gymru baratoi i herio Iwerddon yn Nulyn nos Wener, mae Dewi Lake yn credu bod ei wlad yn "ddigon da i gystadlu" gyda'r Gwyddelod.
Dyw Cymru heb ennill yn erbyn Iwerddon yn Nulyn yn y Chwe Gwlad ers 2012.
Y tro diwethaf iddyn nhw guro Iwerddon ar gae Stadiwm Aviva oedd 11 mlynedd yn ôl mewn gêm baratoi ar gyfer Cwpan y Byd.
Mae capten Cymru, Lake, yn credu bod gan ei dîm y gallu i sicrhau buddugoliaeth nos Wener, gan ddweud bod gan "y garfan gyfan ffydd" yn hynny.
"Rydym yn credu bod ni'n gallu cystadlu gydag Iwerddon achos dwi'n credu bod ni'n ddigon da," meddai.
"Dwi ddim yn meddwl byddwn ni yma os nad ydyn ni'n credu mewn hynny. Ni'n credu os ydyn ni'n chwarae ein gêm ni, rydym yn gallu ennill yn erbyn Iwerddon.
"Dwi wedi dweud ers y cychwyn bod ffydd yn y garfan yn ystod y gystadleuaeth.
"Ac roeddem yn dangos ni ar ein gorau yn erbyn yr Alban ac roedd popeth wedi disgyn yn ei le.
"Mae'r gêm honno yn rhoi mwy o hyder i ni, ac rydym yn gallu codi lefel arall yn erbyn Iwerddon."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2029123005536756149/photo/1
Dyw Cymru heb ennill mewn 14 o gemau yn y Chwe Gwlad, rhediad sydd wedi para dros dair blynedd.
Mae Iwerddon yn dod mewn i'r gêm wedi buddugoliaeth gampus yn erbyn Lloegr yn Twickenham penwythnos diwethaf.
Y Gwyddelod yw'r ffefrynnau amlwg i ennill nos Wener, ond credai Dewi Lake bod hynny gallu bod o fantais i Gymru.
"Dyna ein hoff le i fod, yr underdog," meddai.
"Fel Cymro rydych chi'n caru hynny, does neb yn rhoi cyfle i ni. Doedd neb wedi rhoi cyfle i ni rownd ddiwethaf ac roeddem wedi dangos ein gallu.
"Dwi'n gwybod bod ni heb ennill, ond roedd hynny wedi rhoi ffydd i ni."