Cymru’n cyhoeddi carfan ar gyfer gemau ail gyfle Cwpan y Byd yn erbyn Albania

Mared Griffiths
Mared Griffiths

Mae Rhian Wilkinson wedi cyhoeddi ei charfan ar gyfer gemau ail gyfle Cwpan y Byd yn erbyn Albania fis nesaf.

Bydd Cymru’n herio Albania dros ddwy gymal, gyda’r gêm gyntaf yn Shkodër ddydd Gwener 9 Hydref cyn yr ail gymal ym Mharc y Scarlets, Llanelli, ddydd Mawrth 13 Hydref.

Mae Cymru’n ceisio cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd y Merched am y tro cyntaf yn eu hanes.

Mae chwe chwaraewr sydd heb ennill cap eto wedi’u cynnwys yn y garfan, gyda Casi Gregson a Heidi Hills yn cael eu galw i garfan y tîm hŷn am y tro cyntaf.

Mae Mia Ross, Hayley Ladd, Laura Hughes, Olivia Clark, Ceri Holland, Ffion Morgan ac Ella Powell i gyd yn absennol oherwydd anafiadau.

Mae Cymru’n mynd i’r gemau ail gyfle heb golli gêm yn 2026.

Yn ystod yr ymgyrch ragbrofol hyd yma, mae tîm Wilkinson wedi ennill pedair gêm a chael dwy gêm gyfartal, gan sgorio 17 o goliau.

Pe bai Cymru’n curo Albania, fe fydden nhw’n wynebu naill ai Romania neu Norwy dros ddwy gymal ym mis Rhagfyr, gyda lle yng Nghwpan y Byd 2027 ym Mrasil yn y fantol.

Bydd y gemau hynny’n cael eu chwarae ddydd Mawrth 1 Rhagfyr a dydd Sadwrn 5 Rhagfyr.

Bydd ail gymal Cymru yn erbyn Albania ym Mharc y Scarlets yn dechrau am 19:15 ddydd Mawrth 13 Hydref.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.