Cymru’n cofnodi’r Gorffennaf sychaf erioed
Mae Cymru wedi cofnodi ei mis Gorffennaf sychaf ar gofnod, tra bod y tymheredd cyfartalog wedi cyfateb i’r record a gofnodwyd yn 1983 a 2006.
Dim ond 9.3mm o law a ddisgynnodd ar gyfartaledd ar draws Cymru yn ystod y mis, sef 9% o’r cyfartaledd hirdymor.
Roedd y cyfanswm yn llai na hanner y record flaenorol ar gyfer mis Gorffennaf, sef 22.6mm yn 1911. Mae rhai o gofnodion y Swyddfa Dywydd yn ymestyn yn ôl i 1836.
Cafodd Cymru 308 awr o heulwen yn ystod y mis, sef 74% yn fwy na’r cyfartaledd rhwng 1991 a 2020. Mae hynny’n cyfateb i bron i 10 awr o heulwen y dydd.
Dyma oedd y mis Gorffennaf mwyaf heulog yng Nghymru ers i gofnodion sy’n mesur oriau heulog ddechrau yn 1910, yn ogystal â’r mis calendr mwyaf heulog erioed.
Roedd hefyd yn fis Gorffennaf cynhesaf ar y cyd yng Nghymru, gyda thymheredd cyfartalog o 17.8°C, yr un faint ag yn 1983 a 2006.
Roedd hynny 2.5°C yn uwch na’r cyfartaledd hirdymor. Roedd cyfartaledd y tymereddau uchaf dyddiol hefyd yn uwch nag mewn unrhyw Orffennaf arall ar gofnod yng Nghymru.
Daw’r ffigurau wedi i gyfnodau hir o dywydd poeth a sych arwain at amodau sychder ar draws Cymru gyfan.
Dywedodd rheolwr gwyddoniaeth y Swyddfa Dywydd, Dr Amy Doherty: “Mae Gorffennaf 2026 wedi bod yn fis gwirioneddol ryfeddol yng nghofnod hinsawdd y DU.
“Mae ffigurau dros dro yn dangos mai hwn oedd y mis Gorffennaf sychaf ar gofnod yng Nghymru ac yn Lloegr, a’i fod hefyd yn gydradd â’r mis Gorffennaf cynhesaf ar gofnod yng Nghymru.”
“Mae’r cyfuniad o sychder sydd wedi torri record, cynhesrwydd eithriadol a heulwen ddigynsail wedi arwain at un o’r misoedd haf mwyaf nodedig yn ein cofnodion hanesyddol.”